Skip to main content

Y PYSGEDYDD. TEMTIAD CRIST—A ALLAI CRIST BECHU? GAN Y PARCH. D. J. WILLIAMS, TREDEGAR. " Wedi ei demtio yn mhob peth yr un ffunud a ninau, eto heb bechod"— Hebreaid iv. 15. Pwysigrwydd y Temtìad.—Y mae i'r dygwyddiad hwn yn mywyd Crist bwysigrwydd mawr. Mewn un ystyr, saif brwydr y temtiad yn gyfartal bwysig i frwydrau Calfaria a'r Ardd, oblegid er i Grist allu marw yn llwyddianus, ac adgyfodi yn fuddugoliaethus, fe fuasai methiant ar ran Crist yn mrwydr y temtiad yn golygu methiant holl drefn yr iachawdwriaeth. Ynglŷn â'n temtasiynau ni, y cwestiwn i'w benderfynu ydyw—cymhwysder y temtiedig i fod yn ddeiliad o deyrnas Dduw; ond ynglŷn a themtiad Crist, yr oedd yna gwestiwn anfeidrol bwysicach i'w benderfynu, yr oedd bodolaeth y deyrnas hono yn y glorian, ac anhawdd i neb fydd anwybyddu pwysigrwydd yr am- gylchiad hwn, tra y cedwir mewn cof mai yn muddugoliaeth y temtiad y sylfaenwyd teyrnas Dduw ar y ddaear, ac y penderfynwyd i bob pwrpas ymarferol dynged yr holl ddynoliaeth. Hanesydd y Tcmtiad.—Yr ydym yn darllen fod Crist yn unig yn yr anialwch, allan o olwg a chymdeithas pawb dynion. Os felly, pa fodd y cafwyd yr hanes maith a manwl o'r temtiad, fel y croniclir ef gan y gwahanol efengylwyr? Nid oes ond un atebiad yn bosibl, sef mai Crist, y temtiedig ei hun, yw yr Hanesydd. Ganddo Ef ei hun y cafodd yr efengylwyr hanes yr holl helynt; a phrydferth anghyffredin, hyd yn nod mewn dychymyg, ydyw yr darlun o Grist yn eistedd yn nghanol ei ddysgyblion, fel tad yn eistedd yn nghanol ei blant ar hirnos gauaf, i adrodd iddynt stori gyffrous y temtiad, a darlunio iddynt adventures yr anialwch, nes codi Pedr ar ei draed, a thynu deigryn o lygaid Ioan, a'u dwyn hwynt oll i ysbryd gweddio—" Nac arwain ni ynte i demtasiwn, eithr gwared ni rhag yr un drwg." Adeg y Temtiad.—Cytuna yr oll o'r efengylwyr ar hyn, fod y temtiad wedi cymeryd íle yn union ar ol y bedydd, " A'r Iesu wedi ei fedyddio a aeth i fyny o'r dwfr..........Yna yr Iesu a arweiniwyd i fyny i'r anialwch gan yr Ysbryd, i'w demtio gan ddiafol." Nid cynt y mae Ef allan o ddwfr y bedydd nag y mae Ef i fewn yn nhân y temtiad. Hon, onide, yw trefn gyffredin pethau o hyd? O du Duw a'r nefoedd, y mae'r bedydd bob amser yn rhagflaenu'r temtiad, i fod yn help a chymwysder i'w orchfygu. Ond o du'r diafol hefyd y mae yna demtiad fel rheol yn dilyn y bedydd. Pan y byddo dyn wedi ei îanw fwyaf â'r dwyfol, dyna'r adeg y mae yn sefyll mewn mwyaf o 2 h