Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. EIN HENWAD YN NGOLEUNI DADBLYG- IADAU YR OES. [Yr ydym yn cyhoeddi yr Anerchiad a draddodwyd o gadair "Undeb yr Annibynwyr Cymreig " yn y Memorial Hall am y flwyddyn hon ar gais nifer o'n darllenwyr a'n gohebwyr, yn y rhai y mae genym gryn feddwl o'u barn; ac ni a hyderwn y rhydd y darlleniad o honi foddlonrwydd i luaws mawr o ddarllenwyr nachawsant gyfleusdra i'w gweled yr un ffordd arall.] f=||Y Mrodyr a'm Cyfeillion Hoff,—Y mae yn weddus i mi yn Û/ gyntaf oll ddatgan fy nghydnabyddiaeth ddiffuant am yr —& anrhydedd a osodwyd arnaf yn nghynulliad blynyddol Undeb yr Annibynwyr Cymreigf, yn nînas Liverpool y llynedd, yn fy ethol i'r safle yr wyf ynddi heddyw fel eich Cadeirydd. " Ac wedi i mi gael help gan Dduw, yr wyf yn aros*hyd y dydd hwn." Yr ydym yn cyfarfod fel Undeb eleni yn y Brifddinas—prif- ddinas yr Ymherodraeth Brydeinig, a phrifddinas y byd gwareiddiedig. Ac y mae y cynulliad sydd ger fy mron yn y neuadd hon heddyw yn meddu ar nodwedd eithriadol mewn gwybodaeth a dylanwad, dysg a phrofiad. Yr wyf lawer gwaith yn ystod y flwyddyn ddiweddaf wedi portreiadu y cynulíiad hwn yn fy meddwl; ac y mae'r syniad o'r cyfrifoldeb o'i anerch wedi bod ar adegau i mi bron yn orlethol. Hid ychydig fu y pryder a deimlwn ar brydiau pan yn ceisio meddwl " pa beth a ddy- wedwn " o safle lleygwr ar achlysur fel hwn. Y mae fy meddwl wedi bod yn crwydro draw ac yma, ac yn methu cael lle i orphwys, mwy na cholomen Noah gynt; pan y tybiwn fy mod wedi cael testun cymhwys a boddhaol, mi gawn allan drachefn fod y penawd hwnw wedi ei ysbeilio o'i holl wyrddlesni, a'r llwybrau o'i amgylch ogylch wedi eu cochi gan gerddediad rhywrai a dramwyasant y ftordd hono o'r blaen; fel "nad oedd dim newydd dan yr haul; y pethau sy a fu o'r blaen." Nid oedd dim i'w wneud o dan yr amgylchiadau ond ceisio teimlo yn ddiolchgar y gellid syrthio yn ol ar HEN WIRIONEDDAU. Yr wyf, gan hyny, gyda phob gwyleidd-dra, yn taflu fy hunan ar eich hynawsedd a'ch cydymdeimlad, ac yr wyf yn gwahodd eich ystyriaeth at rai nodiadau pellach ar EIN HENWAD YN NGOLEUNI DADBLYGIADAU YR OES. Fe gydnabyddir ar unwaith fod arbenigrwydd gwahaniaethol ein Henwad yn gynwysedig", yn g"yntaf oll, yn y G.yfundrefn Eg-lwysig