Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Y PARCHEDIG DAVID MORGAN, LLANFYLLIN. GAN Y PARCH. JOSIAH JONES, MACHYNLLETH. Ysgrif V. 'EDI i'r helyntion blin y cyfeiriasom atynt fyned heibio, yr oedd eu heffeithiau blinderus yn aros, fel y gwelsom drwy dystiolaeth Mr Morgan—yn aros fel gofid dwys yn ei fyn- wes ef ei hun, ac fel aflwydd hefyd ar ei lafur fel gweinidog; ond yn mhen oddeutu dwy flynedd wedi'r cythrwfl dechreuol, sef yn y flwyddyn 1827, cynygiwyd i Mr Morgan alwad daer ac unfrydol gan hen eglwys gref a dylanwadol y Drewen,—un o'r rhai mwyaf felly yn Sir Aberteifi y pryd hwnw, ac ar lawer cyfrif, un o'r rhai mwyaf dewisol, yn neillduol felly i ddyn o'i alluoedd ac o'i ymroddiad ef. Yr ydym yn dweyd hyn, nid yn unig am fod yr eglwys ei hun yn gref, ond hef%d am fod y cymydogaethau eang cylchynol iddi heb eu medd- ianu eto gan yr un enwad Ymneillduol arall—cymydogaethau yn cyr- haedd o Aberporth i Gastellnewydd Emlyn, ac o Troedyraur i Lech- ryd, yn cynwys oddeutu deugain o filldiroedd ysgwar, a lle erbyn hyn y mae yreglwysi Annibynol ynBrynmair, Bryngwyn, Beulah,Bethesda, Bryngwenith, a Brynseion wedi eu sefydlu, a chapeli cyfaddas iddynt wedi eu hadeiladu er's blynyddau; a hynod iawn ydyw meddwl fod y cymydogaethau eang hyn, gydag ychydig iawn o eithriadau, yn aros hyd heddyw yn meddiant yr Ánnibynwyr. Y fath faes rhagorol gan hyny fuasai hwn i weithiwr mor egniol a Mr Morgan y pryd hwnw, a barnu oddiwrth y gwaith a gyflawnodd yn Machynlleth a'r cymyd- ogaethau! Yn y fiwyddyn 1828 ymsefydlodd y Parch John Phillips, mab yr enwog Dr. Phillips, Neuaddlwyd, fel gweinidog yn Drewen, ac ar un adeg yn ystod y pum' mlynedd y bu yn aros yno, dywedir fod yr eglwys yn rhifo cynifer a chwe' chant o aelodau. Dywed Mr. Morgan ei fod yntau yn teimlo " tuedd lled gryf" yn ei feddwl i dderbyn yr alwad, gan ei fod "yn ofni na fyddai pethau ddim yn parhau yn hir yn Machynlleth i fyned yn mlaen mor gysurus ag oeddynt wedi bod hyd hyny:" ond cyn penderfynu i ymadael, meddyl- iodd mai doeth a fyddai galw yn nghyd y rhai a flaenorent yn y gwa- hanol ganghenau o'r eglwys, er hysbysu iddynt am y cynyg a gawsai, a'i resymau yntau dros ymadael, os felly y byddai. Yn mysg pethau eraill,dywedoddwrthynt nad oeddynt ddim wedibod yn ffyddlawn i gyf- lawnu eu haddewidion er ei gynhaliaeth ef a'i chwe' phlentyn amddifad,