Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Hen. Gyf.—913. EBRILL, 1898. Cyf. Newydd. 313. Y PARCH. DAVID MORGAN, LLANFYLLIN. GAN Y PARCH. JOSU.H JONES, MACHYNLLETH. Ysgrif IV. EDI i Mr. Morgan ymsefydlu fel gweinidog yn Machynlleth, Aberhosan, a Phenal, parhaodd i ymgartrefu gyda'i deulu yn Cerygtaranau, yn ymyl Talybont, gan ddyfod oddiyno i'w gylch gweinidogaethol bob Sabbath. Parhaodd i wneud hyny am fwy na dwy flynedd wedi ei sefydliad, cyn iddo symud ei deulu. Ond trwy gynllwynion rhyw rai, medd efe, gyda goruchwyliwr perchenog y lle, gorfu arno ei roddi i fyny. A chyn pen ychydig wythnosau ar ol hyn, rhoddodd Mr. Shadrach eglwys Talybont i fyny, a daeth Mr Morgan i brofedigaeth arw, yn gymaint ag iddo dderbyn anogaethau cryfion, oddiwrth lawer o'r eglwys hono, i gan- iatau iddynt roddi galwad iddo dd'od yn oì atynt hwy, er ymgymeryd â gwaith y weinidogaeth yn eu plith. Ond gan fod ei dyddyn bychan, prydferth, a chyfleus iawn i weinidog yn Nhalybont, wedi ei gymeryd gan arall, er dirfawr golled i Mr. Morgan mewn pethau daearol, a chan ei fod yntau erbyn hyn wedi symud ei deulu i Fachynlleth, nid oedd dim i'w wneud ond gwrthsefyll y brofedigaeth, a gwrthod can- iatau iddynt roddi galwad iddo; ac yn neillduol felly, gan ei fod yn dderbyniol a pharchus gan yr eglwysi y daethai atynt, ac yn llwydd- ianus yn eu plith fel gweinidog. "Trwy hyn, tafìwyd fi am fy oes dros afon Llyfnant i drigianu," medd Mr. Morgan; ac yn wyneb yr hyn a gymerasai le, y mae efe eto yn gwneud y sylw tarawiadol hwn: — "Y mae ffyrdd Rhagluniaeth Duw yn rhyfedd, gan fod pethau mawr yn troi ar bethau bychain yn ein golwg ni." Oni buasai y pethau bychain y cyfeirir atynt yma gan Mr. Morgan, sef y pethau yn nglŷn â'r tyddyn, tebyg y buasai gweddill ei ddyddiau ef yn wahanol iawn i'r hyn a fuont, pa un bynag ai er gwell ynte er gwaeth a fuasai hyny. Wedi iddo ddyfod i gartrefu yn Machynlleth, ymroddodd Mr. Morgan yn egniol a diarbed i gyflawni ei weinidogaeth, trwy breg- ethu yr Éfengyl bump a chwech gwaith bob wythnos. Gwnai hyny weithiau mewn tai anedd, a phrydiau eraill ar y meusydd ar hyd yr ardaloedd, yn gystal ag yn yr addoldai o'r fath ag oeddynt y pryd hwnw; a thystia fodyr Arglwydd yn rhoddi gwenau ei wyneb i gyd- fyned â'i lafur, fel y chwanegwyd nifer mawr at yr "eglwys" yn y naill fan a'r lla.ll. Sylwer mai am "eglwys" y mae efe yn Uefaru fel hyn, gan gynwys ynddi yr aelodau yn Aberhosan a Phenal, yn ogystal