Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Hkn. Gyf.-912. MAWRTH, 1898. ~cTF7^ÎEWYDDr3127~ Y PARCH. DAVID MORGAN, LLANFYLLIN. GAN Y PARCH. JOSIAH JONES, MACHYNLLETH. Ysgrif III. jELLACH, y mae Mr. Morgan wedi dyfod yn Annibynwr; a diau mai nid cam hawdd i'w gymeryd ydoedd hwn iddo ef, pan gofiom am ei gysylltiadau boreuol, a nerth y rhag- farnau oeddynt mor naturiol i ddyn penderfynol fel efe Ond yn wyneb yr hyn a welsom, mor raddol ac mor esmwyth yr arweiniwyd ef gan Ragluniaeth i gymeryd y cam anhebygol hwn! Y mae yn ymddangos hefyd, oddiwrth ei gofnodion, nad ydoedd pob peth perthynol i'r Trefnyddion, yn flaenorol i hyn, ddimyn hollol fodd- häol ganddo ef "er meithrin a dwyn yn mlaen grefydd o'r fath oreu, a chynydd mewn iawn wybodaeth o wirioneddau yr efengyl, yn enwedig yn meddyliau pobl ieuainc." Nid oedd cynwysiad gweinidogaeth eu pregethwyr, medd efe, "y rhai a elwid ganddynt hwy yn Gynghorwyr y rhai oedd yn teithio yn gyffredin trwy y wlad, ond cyfyng iawn. Er ei bod yn cynwys pethau da, mor bell ag yr oedd yn myned, eto nid oedd braidd ond yr un peth i'w glywed gan y naill a'r lla.ll o honynt, o'r naill ben o'r fiwyddyn i'r llall. Pell iawn oeddynt o fod yn rhoddi goleuni, nac o amcanu rhoddi goleuni, ar holl faes gweinidogaeth yr efengyl ger bron eu gwrandawyr." I ddyn ieuanc o feddwl cryf a bywiog, rhaidfod hyn yn ddiffyg- pwysig i'w deimlo o Sabbathi Sabbath; ac yn tueddu yn uniongyrchol i gynyrchu diflasdod ar bethau dwyfol. Y mae efe hefyd yn cwyno ar yr ysbryd hunanfoddhäol a feithrinid yn eu plith yr amser hwnw, yr hwn a barai i'r dynion ieuainc i feddwl nad oedd yr un enwad arall o grefyddwyr yn gywir yn eu cred, nac o werth dim ond hwynthwy. Fel hyn eto y dywed efe:—"Tra y bum yn eu plith, ni wyddwn fod yr un enwad crefyddol arall mewn bod ond yr Eglwys Sefydledig, er ymofyn o honof am hyny gyda rhai o honynt rai gweithiau, hyd oni ddaeth rhai o'r Bedyddwyr i'r ardal hono i bregethu. Rhod'dodd yr ysbryd hwn dramgwydd dinystriol i lawer o bobl ieuainc crefyddol yn eu plith, trwy eu llanw o falchder ac uchder ag oedd yn anweddus i'r efengyl, a thrwy eu dwyn i feddwl eu bod yn perthyn i'r unig enwad da o grefyddwyr yn y byd, yn enwedig yn Nghymru. Ni ddywedir y pethau hyn yn y mesur lleiaf er taflu sarhad ar y cyfeillion Trefnyddol sydd yn awr; oblegid gwyddom fod y pethau uchod gwedi eu bwrw ymaith o'u plith hwy yn bresenol, i raddau helaeth." Felly, darlun o'r Trefnyddion yn ei amser boreuol ef a roddir gan Mr. Morgan yn y g-eiriau dyfynedig- hyn, ac nid darlun o honynt fel y