Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Hen. Gyf.—911. CHWEFROR, 1898. Cyf. Newydd. 311. PARCHEDIG DAVID MORGAN, LLANFYLLIN. GAN Y PARCH. JOSIAH JONES, MACHYNLLETH. Ysgrif II. jN niwedd ein hysgrif flaenorol gadawsom Mr. Morgan, ac efe ar y pryd oddeutu deunaw mlwydd oed, yn aelod cyflawn gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; a gwelsom fod ei brofiad crefyddol yn gynhes ac addawol iawn. Yr oedd yr am- gylchiadau teuluaidd hefyd yn gyfryw fel y gallesid dysgwyl y buasai ei gynydd, fel crefyddwr ieuanc, yn eglur i bawb. Gwelsom fod ei chwaer henaf yn ddynes ieuanc ragorol, a chaffai yntau hyfrydwch mawr yn ei chymdeithas; ac ymddengys fod ei dad hefyd yn ddyn rhagorol ar lawer cyfrif; er nad ydoedd eto, efallai, wedi dyfod allan o'r Eglwys Wladol, ac wedi ymroddi i fod yn aelod cyflawn a selog gyda'r Methodistiaid, fel y bu cyn diwedd ei oes. Dywed Mr. Morgan ei fod yn ŵr defosiynol; a bu yn un o'r rhai blaenaf i dori lawr yr hen arferion llygredig- oeddynt yn melldìthio y gymydogaeth, yn nglŷn â phriodasau ac angladdau. Yr oedd efe hefyd yn ofalus iawn am feithrin rhinwedd a chrefydd yn ei deulu ei hun; oblegyd arferai yn fynych, ac ar nos Sabbothau yn enwedig, i gael cylch o'r rhai a fedrent ddarllen y Beibl yn ei dŷ, i ddarllen bob un ei adnod yn ei dro; ac os collai neb mewn dim, cywirid y gwall ganddo yn union o'i gof, gan mor gyfarwydd ydoedd yn y Gair. Ni oddefid i un pechod cyhoeddus a gwarthus gael ei goleddu yn y teulu, nac i un ymadrodd cableddus gael ei arfer gan neb. Nid rhyfedd felly, fod Mr. Morgan yn meddwl yn uchel iawn am ei dad; a'i fod yn gallu dweyd am dano ei fod, oherwydd ei ymddygiad diargyhoedd, ei feddianau bydol, ac yn enwedig ei haelioni i'r tlodion, yn barchus iawn yn' mhlith ei gymydogion, tlawd a chyfoethog. Ac nid rhyfedd hefyd ei fod wrth edrych yn ol ar y cyfnod hwn, yn mhen oddeutu tri ugain mlynedd, yn datgan mewn boddhad diolchgar, *' Dyma y fath rieni yr henais o honynt, a dyma y fath deulu y magwyd fì ynddo. Er fod ynddo lawer o ddiffygion y gallesid dymuno eu bod yn well, eto teimlaf fod arnaf rwymau bythol i gydnabod daioni agofal Rhagluniaeth y nef yn trefnu fy ngoelbren i syrthio i mi gael fy nwyn i fynu yn y fath deulu. A theimlaf rwymau i fod yn ddiolchgar fy mod wedi cael fy ngeni am magu pan oedd gwawr diwygiad a gwelliant yn codi ar Gymru, yn y diwygiadau grymus a thanllyd a fu yn mhíith y Trefnyddion Calfinaidd tua yr amser hwn."