Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Hbn. Gyf.—907. HYDREF, 1897 ^Cy^Tn^y^^oTT^ Y DIWEDDAR DR. ROBERTS, WRECSAM. GAN Y PARCH. D. GRIFFITH, BETHEL. ;T??T$37ELE eto un o gedyrn y pulpud Annibynol yn Nghymru wedi MÈJlSSaü syrthio! Yn marwolaeth Dr. Roberts, cymerwyd ymaith y (íW™ "prophwyd, y synhwyrol, a'r henwr," yn gystal " a'r anrhydeddus, a'r cynghorwr, a'r crefFtwr celfydd, a'r areithiwr hyawdl." Mor chwith yw meddwl na chawn mwyach weled ei wedd, na chlywed ei lais soniarus, a'i nodiadau gwefreiddiol yn ein cymanfaoedd, a'n cylchwyliau blynyddol! Ond peth mawr a hyfryd ydyw cofio iddo dreulio bywyd nodedig o ddefnyddiol, a disgyn i'w fedd wedi " byr ysgafn gystudd," yn gyfîawn o ddyddiau ac anrhydedd. Nid gweddus fyddai i ni droi allan y rhifyn hwn o'r Dysgedydd heb wneud ychydig grybwyllion coffadwriaethol am un oedd mor ddiwedd- ar yn weithgar yn ein mysg, ac mor anwyl a gwerthfawr yn ein golwg ni oll. Ganwyd ef yn Mangor, yn y flwyddyn 1817. Ei dad ydoedd bregethwr cymeradwy gyda'r Methodistiaid. O du ei fam, yr oedd yn berthynas agos i'r cedyrn hyny yn y weinidogaeth, sef y Parchn. John Jones, Talysarn; David Jones, Treborth; a Cadwaladr Owen, Dolwyddelen. Diau iddo gael mam ardderchog. Yn ol barn y di- weddar Dr. Arthur Jones, yroedd yn un o'r gwragedd goreu a gafodd dyn erioed ar o\ i Efa gwympo." Ei dad hefyd ydoedd wr a anrhyd- eddid yn fawr, fel y cawn Eben Fardd yn adgoffa am dano, wedi ei farwolaeth,— " Aeth Roberts, athraw hybarch, — o glyw byd, Dan glo'r bedd a'i dywarch; Cofion, er hyn, a'i cyfarch, Heddyw a byth haeddai barch." Gan fod rhieni Dr. Roberts, fel eiddo y diweddar Dr. John Thomas, Liverpool, yn perthyn i'r Methodistiaid, dyna yr enwad, yn mha un, wrth gwrs, y dygid hwythau i fyny. Ond ar ol dyfod yn fawr, pen- derfynodd y naill fel y llall droi at yr Annibynwyr yn y gobaith y caent felly ddechreu pregethu yn gynt, a chyda llai o drafferth; a hyny hefyd a fu, er mantais amlwg i'r enwad Cynulleidfaol drwy Gymru oll. Ymawyddai Dr. Arthur Jones am i Roberts ieuanc fyned i un o'r Colegau Seisonig, er ymbarotoi ar gyfer y weinido^aeth; ond dygwyddai ei fod yn rhy lawn o ysbryd pregethu ar y pryd, i ddy- gymod â'r meddwl o tbd am flynyddau mewn coleg yn mhlith y Saeson. Yn ganlynol, ymroddodd i'r gwaith yn egniol, gan dalu mynych ymweliad â Môn, yn yr hon sir yr oedd ef i dreulio rhai o flynyddau dedwyddaf ei fywyd. Wedi derbyn galwad oddiwrth yr 2K