Skip to main content

Y DYSGEDYDD, Y DUW-DDYN. * GAN Y PARCH. D. S. THOMAS, LLANRWST. AE "y pethau yn nghylch Iesu o Nazareth " yn pa-rhau yn ddyrys-bwnc beirniadaeth y dynion dysgedicaf a duwiolaf ar sa£Va§L hyd yr oesau. " Ni ellir chwilio allan ei synwyr Ef." Nid ä y testyn hwn byth yn hen. Ac mae Llyfr y Dr. T. Charles Edwards, Prifathraw Coleg Duwinyddol y Bala, yn brawf ychwanegol o hya. Pa bryd y daeth y fath lyfr nerthol i gyffyrddiad mor agos â chenedl y Cymru o'r blaen, ar Bersonoliaeth yr Arglwydd Iesu Grist? Diau y gellir edrych ar y llyfr hwn, fel tòn ar flaen llanw o feddylgarwch duwinyddol dyfnach a newyddach na dim a welwyd yn Nghymru erioed o'r blaen. Mae yr Adolygiadau byw ar y llyfr gan rai o ddysgedigion ieuainc treiddlym ein gwlad yn awgrymu hyn; ac mae'n bosibl fod dystawrwydd dwfn-fyfyriol duwinyddion addfetach yn datgan hyny gydag hyawdledd mwy. Diau fod y Dr. yn Weledydd yn Israel. Ac mae ysbryd dwfn ddefosiynol y llyfr, yn nghyda'r ddysg- eidiaeth glaer geir ynddo, yn galw am ein hystyriaeth.au a'n sylw- adau mwyaf gwylaidd a pharchus. Eto, y mae yn bosibl, megys y mae rhai wedi datgan eisoes, fod rhai o'r syniadau a ehadernid eu cynseiliau yn amheus. Ond diamheu genym mai y Dr. Parchedig fyddai y diweddaf o bawb i ddiolch i ni am gelu ein hameuon, gyda golwg ar gywirdeb dysgeidiaeth y llyfr Felly fe gyd-ddygir â ni yn awr am alw sylw at rai o'r athrawiaethau a ystyriwn yn amheus ynddo. Ond gwnawn hyny, nid fel un awyddus am derfynu y ddadl o gwbl, ond fel un gwylaidd yn chwilio am ffordd y gwirionedd. Er mwyn mantais i'r darllenydd, dichon mai yn awr y byddai oreu i ni wneud y sylw canlynol. Fod dwy Ysgol o Dduwinyddion yn ceisio esbonio dirgelwch y Duw-Ddyn. Gwaith un Ysgol yw, dangos y pellder anfesurol sydd rhwng y dwyfol a'r dynol ynddynt eu hunain, ac yna ceisio egluro sut y deuant at eu gilydd yn yr ymgnawdoliad. Gwaith yr Ysgol arall yw, dangos perthynas dragwyddol y dwyfol a'r dynol â'u gilydd; ac yna egluro datblygiad naturiol yr ymgnawdol- iad. Craffer ar y gwahaniaeth rhwng y ddwy Ysgol. Ai gormod dweyd mai perthyn i'r ddiweddaf y mae y Dr. Parchedig? Ac orwd ar gynseiliau Damcaniaeth Datblygiad y pwysa yr Ysgol hon? Ond er y cwbl, mae ein Hawdwr yn dal gafael ddiollwng yn yr hen athraw- iaethau eglwysig. Onid ydyw ef yn dal y cwymp fel ffaith, anallu- awgrwydd dyn i godi heb help y goruwchnaturiol, cyfiawnhad pechadur drwy ffydd, maddeuant pechod drwy yr Iawn,—yn gystal ag ym- gnawdoliad gwirfoddol yr Ail Berson yn yr Hanfod Ddwyfol? Felly * Adolygiad ary Davies Lecture, gan Dr. T. Charles Edwards, Bala, 2i>