Skip to main content

Y DYSGEDYDD, Tt^GyÎ^OoT" ^íírWRTHrîSÌTr" ^Cy^^^^S^ Y TRAGWYDDOL DRI. GAN Y PARCH. ELLIS JONES, BANGOR. |R awdurdod benaf o'n heiddo dros athrawiaeth y Drindod yw geiriau y Gwaredwr, " gan fedyddio yn enw y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glan," yn nghyd a'r weddi apostolaidd lle y cyplysir enwau y tri; yn ychwanegol, ceir brawddegau yma a thraw yn y Testament Newydd sydd naill ai yn rhagdybied yr ath- rawiaeth yn ei chyfanrwydd, neu ynte yn dysgu agweddau arni. Nid yw y gair trìndod yn yr ysgrythyrau o gwbl. Tertullian (A. D. 230) fel y tybir yw y cyntaf i'w ddefnyddio. Nid yw y gair ỳerson i olygu y berthynas fodola rhwng y Tad, y Mab, a'r Ysbryd, yn y gyfrol ddwytol ychwaith, eithr defnyddiwyd ef gan ddynion ar raid am nad oedd gair gwell wrth law, a hyny pan nad ydoedd ei ystyr gyffredin yr hyn yw heddyw; ni bu ar unrhyw adeg yn un hapus, achlysurodd i Drindodwyr gael eu dal yn gyfrifol am syniadau nas buont erioed yn eu coleddu. Yn Rhufain ymerodrol, lle caed y gair, y pcrso)iayà.o^àÂy niwgwd roddid ar y wyneb, ar achlysuron neillduol, drwy ba un y siaradai y sawl a'i gwisgai. Yn awr, os dyna ydym i olygu wrth y personau yn y Drindod, yn eglur nid ydynt ond agweddau ar weith- rediadau y Natur ddwyfol; o ganlyniad drwgdybid y g-air gan rai o'r duwinyddion uniongred gymerasant ran yn Nghynadladdau Nicea (A. D. 325) a Chaer Cystenyn (A. D. 381) fel yn sawru o heresi Sab- ellius (A. D. 270); oblegid ceisid cael term a a\vrgrymai symudiadau yn y Duwdod ac nid yn unig o'r tuallan iddo. Erbyn ein dyddiau ni sut bynag, y mae person mewn iaith gyffredin wedi d'od i g'a'íl ei ddefnyddio am yr hyn sydd yn gnewyllyn bodolaeth dyn, er y ceir rhai weithiau a ddefnyddiant y gair am allanolion dyn, sef ei gorff, megis pan y dywedir fod un o berson hardd. Person yw un y gellir priodoli personoliaeth iddo; y mae yn fôd, ac yn fyd ar ei ben ei hun, canol- bwynt pa un yw hunanymwybyddiaeth; brenin yr hwn yw yr ewyllys, a'i ddeiliaid yw meddyliau; mae'r natur ddynol yr un yn mhawb, ond lleng yw personau dynol; y natur wedi ei sylweddoli mewn amser yw person; drychfeddwl yn meddwl Duw o'r hyn yw dyn i fod yw dynoliaeth; yr oedd y syniad fel ysbryd tragwyddol yn cyniwair o flaen, ac yn y Meddwl Anfeidrol. Yn yr ystyr hon, o íeiaf, gellir son am ddynoliaeth Duw, a bod y dynol yn y dwyfol; ond y mae pob cre- adur yn ddwyfol yn yr ystyr hon; meddyliau Duw wedi eu hysgrifenu ydyw pobpeth—boed angel, ddyn, neu lwchyn. Gall yr adeiladydd cywrain godi rhagor nag un palas ar yr un plan, byddant oll yn un o ran cynllun er yn llu mewii rhif; personau dynol yw y g-wahanol unig-