Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGBDYDD. Hen GYF.-896. TACHWEDD, 1896. Cyf. Newydd.—296. A R M E N I A . "Canys fy nghleddyf a drochir yn y nefoedd."—Esaiah xxxiv. 5 GAN Y PARCH 8. R. JEKKÍKS, B.A., BANGOR' çWjfî MAE yr adeg wedi d'od bellach pan nad yw yn ddigon i ni deimlo WjM yn bricdol ar y cwestiwn mawr yma sydd wedi bod ya hawlio sylw »Jìk y byd gwareiddiedig am yn agos i ddwy flynedd. Y mae yr awr i lefaru erbyn heddyw wedi ein dal, a mwy na hyny, y mae yr awr i ni drochi ein cleddyf yn y nefcedd wedi ein goddiweddyd. Dywed rhai wrthym yn haerllug iawn nad yw yn perthyn o gwbl i'r wlad yma ymyraeth, oi bydd i'r ymyriad hwnw boeni unrhyw genedl arall. Y mae yn wir mae penod boenus a gwaedlyd yn hanes y ddaear ydyw, ond ftl pob pecod waedlyd a phoenus arall, y mae yn sicr o dd'od i ben yn hwyr neu hwyrach! Daw, fe ddaw y diwedd, os na wneir rhywbeth yn y man—a'r diwedd hwnw fydd cwbl ddin\striady genedl fechan ddewr hono sydd a'u llef wedi bod yn ad- seinio yn nghlustiau'r byd! Y mae ofn marwol fel pa wedi cymeryd medd- iant o'n gwladweinwyr, y uiae dychryn a braw wedi swyno ein harweinydd- ion i gwsg angeuol, ac y mae cleddyf yr hen wlad yr hon sydd wedi cael ei throchi mewn gwaed gwiriou lawer gwaith cyn heddyw fel pe wedi rhydn yn ein dwylaw. Ychydig fisoedd yn ol, pan yr oedd rai canoedd o'n cydwladwyr ffroenuchel wedi gwneud ymosodiad annheg ac anghyfreithlawn ar deyrnas y Transvaal, yr oedd y wlad fel yn berwi o ddigofaint yn erbyn y byd i gyd am i Ymerhawdwr Germani feiddio gyru brysneges i longyfarch y Boers ar eu buddugoliaeth ogoneddns o blaid cyfiawnder a thegwch gwlad- ol. ir oedd ein bardd coronog ar ei oreu yn cyfansoddi barddoniaeth priodol i'r amgylchiad, ac yr oedd gaììeries ein Music Haìls yn adsaingyda'r banllefau cymeradwyaeth. Yr oecîd eia Hynges y pryd hyny yn ddigon trech na'r byd; yr oedd ein inilwyr yn barod i ryfela yn erbyn holl alluoedd Ewrop. Yr oedd llawer newyddiadur yn galw yn uchel ar y duw a adwaenir wrth yr enw Jingo i noddi ac amddiffyn ein gwlad, ond erbyn heddyw mor wahanol ydyw sefyllfa pethau. A gellir dweyd yn awr, fcd y War Parly o blaid heddwch a bod y Peaceparty o blaid rhyfel. Pan y ma3 hawliau John Bull yn cael eu sathrn dan draed, y mae y Jingoes fel un gwr yn galw i ryfel. "Mawr yw John Bull y iáaeson!" Ond pan y mae hawliau dynol- iaeth, pan y mae iawnderau y gwan mewn perygl, y maent yr nn mor un- frydol yn cilio yn ol. Pan y mae un Sais o'r enw Stokes yn cael ei saethu heb gyfiawn "dreial," y maent yn gwallgofi hyd nes cael Major Lothaire o fiaen y fainc, ond y maent wedi btd yn darllen yn eu uewyddiaduron am y trychinebau mwyat' gwaedlyd a chreulawn heb arswydo o gwbl. Yn sicr, hunancldeb angeuol ydyw Jingoism, gelwir ef ar unrhyw enw araü—gelwir ef yn Imperialism, geiwir ef yn Paí-riwtism—ac y mae y dyddiau diweddaf 2M