Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf,—894. MEDI, 1896. Cyf. Newydd.—294. RHAI AGWEDDAU AR FYWYDCREFYDDOL YDYDDIAÜ PRESENOL. GAN Y PÀRCH. R. E. PEREGRINE, B.D., RHYMNEY. [Anerchiad draddodwyd mewn cyfeillach yn nglŷn â Chymanfa Mynwy, yr hon a gynaliwyd yn Libanus, Ebbw Vale, Gorphenaf 14eg a'r 15eg, 1896. Cyhoeddir ef ar gais y frawdoliaeth.] 'RTH barotoi ychydig o Anerchiad ddysgwylir genyf ar yr achlysor hwn, yr wyf wedi cadw golwg ar ddau beth, sef byrdra, ac hefyd ^WWfi ceisio dyfod o hyd i fater cymhwys i fod yn agoriad i gyfeillach ar bethan ysbrydol. Y mae yna faterion, y tn allan i gylch uniongyrchol pethau yabrydol, yn galw am sylw ac ystyriaeth ddifrifolaf eglwysi ein cyfundeb ni, fel eiddo pob cyfundeb Ymneillduol arall yn y dyddian hyn, yn neillduol cwestiwn Addysg Elfenol. Er fod y mesur beiddear ddygwyd ger bron y Senedd yn ddiweddar wedi ei fwrw o'r neilldu, gellir bod yn dra sicr nad yw'r mater wedi ei fwrw o feddwl y Weinyddiaeth bresenol, ac y codir ef eto heb fod yn hir yn rhyw ffurf neu gilydd. A pha mor ddiniwed bynag yr ym- ddeLgys ei hymgais nesaf i'r cyfeiriad hwn, gallwn fod yn benderfynol ar hynyma, mai tuedd a bwriad y Llywodraeth bresenol yw rhoddi cymaint byth a fedr o arian y cyhoedd, heb lais y cyhoedd, i Ysgolion Enwadol a chymaint ag sydd bosibl o awdurdod ar addysg plant Ymneillduwyr y wlad i ddwylaw clerigwyr Eglwysi Lloegr a Rhufain. Ac y mae yn gwestiwn annhraethol bwysig i ni feddwl am dano. Beth fyddai dylanwad tebygol caniatau hyn iddynt, nid yn unig ar ein Hymneillduaeth, ond ar grefydd ysbrydol yn y wlad. Oblegid os ca offeiriaid y ddwy eglwys addysg plant y tir i'w dwylaw eu hunain, y maent yn sicr, ac nid ydynt yn celu hyn, o geisio diddymu, nid yn unig Ymneillduaeth, ond pob olion o Brotestaniaeth, a'r holl agweddau ysbrydol hyny ar grefydd sydd wedi ei nodweddu yn ei ffurfian puraf. A gobeithio y gwnawn ni fel cyfnndeb ein rhan—y ni sydd yn proffesu caru rîyniant crefydd efengylaidd, crefydd yr aileni trwy yr Vsbryd Glan—y gwnawn ni ein goren i orchfygu pob symudiad sydd a'i dnedd i'n hamddifadu o'r etifeddiaeth deg a ddygwyd i ni. Nid ydym fel gwlad yn ddiberygl o'r oyfeiriad hwn yn y blynyddoedd byn. Y mae yn bryd i ni ddeffro o ddifrif yn ngwyneb cynydd aruthrol Defod- aeth a Phabyddiaeth yn yr Eglwys Sefydledig. Nid deffro i'w herlid ddim, ond i geisio eu rhwystro i gael help braich y Llywodraeth, a phwrs y wlad i ddamnio'n tir trwy gymylu y groes, a lladd rhyddid mt ddyliol a moesol y preswylwyr, Da i»wn genym glywed swn penderfyniadau o w&hanol gyfeir- 2r