Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Hen GYF.-893. AWST, 1896. Cyf. Newydd.—293. PERSON CRIST. GAN Y PABCH. B. EVANS, LLANELLI. jlR gychwyn ein ymholiad am Berson Orisb, cymerwn ddwy ffaith yn ganiataol, sef, Ei fod yn wir ddyn, a'i fod hefydyn wir Ddnw. Meddai holl elfenau dynoliaeth gyflawn. Yr oedd ganddo gorff .= =. oedd yn agored i newyn a syched, i flinder, lludded, a chwsg. Yr oedd ei feddwl yn ddarostyngedig i ddeddfau y meddwl dynol, ac yr oedd ganddo ysbryd, trwy gyfrwng pa un yr oedd yn dal cymdeithas â'i Dad. Meddai ar holl deímladau dibechod y natur ddynol, ac yn agored i gael ei denitio fel ninau. Dyma elfenau hanfodol dynoliaeth gyflawn, ac y mae yr Iesu yn eu meddianu yn drwyadl a hollol. Eithr nid yw hyn ond un wedd i'r person, y mae yma nn arall, yr oedd yn wir Dduw. Bodola er tragwydd- oldeb; medda briodoleddau Dwyfol, priodoleddau y byddai yn rhyfyg yn neb arall i'w gwisgo, Efe yw y golenni, Efe yw y bywyd tragwyddol, a'i hanfod yn gariad fel Duw ei hun. Mae purdeb dilychwin ei gymeriad, ei awdurdod dros gydwybod pob dyn, yn nghyd â'i allu i achub dynion, yn brofion diymwad ei fod yn un o ran hanfod â'r Tad. Dyma ddwy natur, dynol a dwyfol, yn cyd-drigo yn yr un Person, a'ngoeodiad ydyw, er fod yma ddwy natur yn bodoli yn ddigymysg, eto eu bod yn ffurfio un person—person yr Arglwydd Iesu Gfist. Cydnabyddwn ar y cychwyn fod y cwestiwn mor fawr, ac mor llawn o ddirgelwch, fel mae syniad anmherffaith iawn sydd yn bosibl am dano hyd yn nod i'r meddwl mwyaf athrylithgar. Nis gall ein dychymyg meidrol ni synied ond yohydig iawn o berthynas iddo. Mae yma gwestiynau y bydd yn rhaid i'r Iesu ei hun i'w hegluro, ac ar ol eu hegluro, cymer i ni yr oes anherfynol i geisio eu deall. Person y Mab yw gwyrth benaf Duw ei hnn, ac nis gallwn ond sefyll gydag edmygedd santaidd, ac mewn syndod lles- meiriol yn yr olwg arno, a dywedyd, "Mawr yw dirgelwch duwioldeb, Duw a ymddangosodd yn y cnawd." Er hyn i gyd, mae yma bethau i'w gwybod? a'n dyledswydd ninau ydyw agoshau at ffeithiau mawrion ei fywyd a'i addysg, yn nghyd â'r esboniad geir gan yr Apostolion arnynt, yn ngolenni arweiniol ac anffaeledig yr Ysbryd Glan, "Canys yr Yspryd sydd yn chwilio pob peth, ie, dyfnion bethau Duw hefyd." Llawer cynyg sydd wedi ei wneud i egluro yr undeb cyfrin a dirgelaidd rhwng y ddwy natur yn ei berson Ef ar dir athronyddol, ond y mae pob cynyg sydd yn anwybyddu y ffeithiau wedi troi yn fethiant, ac y mae yr eglwys trwy gymorth ei greddfau ysprydol wedi eu gwrthod bob tro, gan ddal yn dyn wrth y ffeithiau er yn methu eu hesbonio na'u hamgyffred. Ac y mae yn deilwng o'n sylw fod pob cyfeiliornad am y person wedi codi o'r ymgais i geisio esbonio ar dir 520