Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Hbn Gyf.—892. GORPHENAF, 1896. Cyp. Newydd.—292. A YDYW DYSGEIDIAETH PAUL MEWN CYDGORDIAD A'R EFENGYLAU AM Y DUW-DDYN. GAN Y PABCH. JAMES OHABLBS. YDD ein sylwadau yn yr ysgrifau hyn yn dal perthynas, megys yn anuniongyrchol, âg Uwchfeirniadaeth Ysgrythyrol. Ar ol i'r Uwchfeirniaid adael y Tesbament Newydd, a myned i ymladd eu brwydrau ar feusydd toreithiog yr Hen Destament, lle y byddant yn debyg o aros yn hir, rhoddir hamdden i ninau i ail fyned dros feusydd y Testament Newydd, i edrych faint o ddifrod sydd wedi ei wneud ar y tir, a faiut o'r athrawiaethau a gredid yn ddiamheu yn ein plith sydd wedi eu gadael heb eu dinystrio. Nid ydym heb wybod fod rhai o'r Uwchfeirniaid yn dadleu nad yw eu gwaith hwy mewn un modd yn cyffwrdd ag athrawiaetb.au neu wirioneddau hanfodol y Grefydd Grist- ionogol. Dichon fod hyn yn wir am un dosbarth o honynt, oblegid y mae rhagor rhwng Uwchfeirniaid ag Uwchfeirniaid. Eu gwaith arbenig hwy vw barnu oddiwrth nodweddion, cynwys, a natur lenyddol y Uyfrau, pa t>ryd, gan bwy, ac i ba amcan yr ysgrifenwyd hwy, a materion cyffelyb. Ond bydd nodi nn neu ddau o bethau yn ddigon i argyhoeddi y darllenydd fod rhai o'r Uwchfeirniaid nid yn unig yn ceisio symud o'u lle rai o'r meini bywiol yn y deml ysbrydol, ond eu bod hefyd yn ymosod yn hyf ar sylfaen y deml, yr hon yw Orist. Mae eu hymdriniaeth âg Efengyl Ioan ac âg Bpistolau Paul yn profi yr hyn y cyfeiriwn ato. Dywedodd Renan fod Efengyl Ioan yn cynwys ffeithiau hanesyddoì gwirioneddol, ond fod llawer o'r areithiau a briodolir i G-rist wedi eu cyfansoddi gan awdwr yr Efengyl. Hollol i'r gwrthwyneb, atebai Matthew Arnold. Yr oedd yr awdwr, pwy bynag ydoedd, yn ddibris o ffeithiau hanesyddol; ond am yr areithiau ar- uchel, maent yn rhy ogoneddus i'w priodoli i unrhyw awdwr, am eu bod uwchíaw ei gyrhaeddiadau. Y mae Paul, meddai Renan, wedi bod yn ddoctor Oristionogol am dri chan mlynedd trwy Brotestaniaeth, ond y mae ei deyrnasiad yn dyfod i ben. Nid felly, meddai Matthew Arnold, ond y mae y Brotestaniaeth a wnaeth ddefnydd a chamddefnydd (abtcse) o Paul yn dyfod i ben; ac yn un o'i lyfrau galluog, ceisia brofi ar un lîaw, fel yr oedd y Protestaniaid wedi abusio Paul; a cheisia egluro ary llaw arall, beth ydyw ei wir ddysgeidiaeth. Ni raid ysgrifenu rhagor er mwyn dangos fod beirniaid enwog yn ymdrin, nid yn unig â dyddiadau (dates) ac â Uenyddiaeih llyfrau y Beibl, ondtraethant eu|barn yn hyf hefyd ar wirioneddau sylfaenol y Orefydd Gristionogol. Mae'n hysbya i'r rhai sydd yn darlien llenyddiaeth dduwinyddol yr oes hon, fod tuedd mown Uawer o Rwdwyr Bnwog i osod Iesu Grist a Panl yn