Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.— 891. MEHEFIN, 1896. Cyf. Newydd.—291. A OES DIWYGIAD GERLLAW? GAN Y PARCH. IDRISYN JONES, TRALLWM. NID yw yn ffaith ddifrifol fod llawer o Gristionogion Cymra wedi cyrhaedd haner oedran ac heb weled Diwygiad Orefyddol o wbl? Mae dwy flynedd ar bymtheg ar hugain wedi pasio er y iweddaf. Arferai un hen Gymraes ddweyd na allai yr Arglwydd gadw Diwygiad oddiwrthynt rhagor nag ugain mlynedd; ond dywedai y Parch. Henry Rees o Le'rpwl, nad oedd ond deg mlynedd rhwng pob ymweliad o'r fath. Os cymerwn y dyb gyntaf, y mae'r Diwygiad 17 mlynedd ar ol ei amser, ac os cymerwn yr olaf y mae 27 mlynedd. Pe bae un oTr hen brophwydi yn cerdded y ddaear yn awr—Elias, Jeremiah, neu Daniel, cwestiwn priodoliawn i'w roddi iddo fyddai hwn, "A oes Diwygiad gerllaw?" ac os atebai, "nis gwn i"—y peth nesaf i'w ddweyd wrtho fyddai, "Ewch at yr Arglwydd heb oedi, a gofynwch, canys j mae canoedd o eglwysi, a miloedd o bobl dduwiol yn dysgwyl am yr atebiad." Ond uid oes brophwyd i'w gael, felly rhaid syrthio'n ol arnom ein hunain, ac ymdrin â'r cwesfciwn goreu gallwn. Nis gallwn lai na chredu fod Diwygiad gerllaw, ar gyfrif y rhesymau yma— 1. Am fod cyfraith Bdwyfol yn nglŷn âg amseroedd. Y mae hon yn amlwg iawn yn yr Ysgrythyr. Mae awrlais Rhagluniaeth yn taro pan mae yr awr apwyntiedig wedi dyfod. Rhaid i bethau moesol fel y naturiol gael amser i addfedu, "Ti a gyfodi ac a drugarhei wrth Seion, canya yr amser i drugarhau wrthi, îe, yr amser nodedig, a ddaeth," Salm cii. 18. "Ac yn y bedwaredd oes y dychwelant yma, canys ni chyflawnwyd eto anwiredd yr Amoriaid," Genesis xv. 16. "Amser yw i'r Arglwydd weithio, diddymasant dy gyfraiUi di," Salm cxix. 126. Os felly, pan mae'r byd yn sathru ar bethau santaidd, ac ar orchymynion y Nefoedd, rhaid dysgwyl yr Arglwydd i'r maes, i ro'i i'r eglwysi y Diwygiad a fydd yn gorchfygu annuwioldeb yr oes. 2. Y mae Diwygiad Grefyddol y peth mwyaf angenrheidiol yn awr. Awr yr angen yw yr awr oreu i Dduw ymddangos i'w blant "Gan weled y gwelais gystuòd fy mhobl sydd yn yr Aifft a'u gwaedd o achos eu meistriaid gwaith a glywais, canys mi a wn oddiwrth eu doluriau, a mi a ddisgynais i'w gwaredu hwy." Gwnaiff Duw ei ymddangosiad pan y mae mwyáf o'i angen, a gwna nyny eto mewn Diwygiad grymus am yr un rheswm; a dyma'r profion— (a) Heb Ddiwygiad nis gall yr eglwysi ddal yn gryf i gario eu gwaithyn mlaen. Mae swyddogion yr eglwys beunydd yn marw, pregethwyr yn syrthio, hennriaid a diaconiaid a gweithwyr yn mhob rhan o'r winllan yn cael ea galw o'r byd; pa fodd, ynte, y gall yr eglwys orchfygu y gelyn, ao enill y ddaear i'r Iesu? Rhaid cael recruits o hyd, ondaraf, araf, y deuant. T' " ^'