Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.—890. MAI, 1896. Cyf. Newydd.—290. CYMERIAD DA A DIWEDD DEDWYDD. PREGETH ANGLADDOL MR. J. EDWARDS, FULHAM, LLUNDAIN. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D., LLUNDAIN. (Cyhoeddir y bregeth ganlynol, nid am y tybia yr awdwr fod ynddi unrhyw ragoriaeth na theilyngdod fel cyfansoddiad, ond yn unig fel teyrnged fechan o barch i gofíadwriaeth y gwr da y cyfeirir ato. Gwr genedigol o Lanbrynmair oedd Mr. Edwards. Yr oedd ei dad yn un o ddiaconiaid yr eglwys yno, a'i fam yn wraig ragorol, ac yn hanu <j hen deulu adnabyddus a pharchus y Ddolgoch. Daeth Mr. Edwards i Lundain yn y flwyddyn 1863, ac ymsefydlodd mewn masnach yn y rhan orllewinol o'r ddinas, a bu yn dra llwyddianus. Bu yn ddiacon ac yn drysorydd i'r eglwys yn Radnor St., am lawer o flynyddau, a gwasanaethodd y ddwy swydd yn dda, a thrwy hyny "enillodd iddo ei hun radd dda, a hyfder mawr yn y ft'ydd sydd yn Nghrist Iesu;" ac y mae yn ddiamheuol genym eifod yn awr ynmwynhau gwobr y "gwas da afìyddlawn." Perchid ef yn fawr gan ei holl gydnabod ar gyfrif ei amrywiol rinweddau. Bu farw Gorphenaf 18fed, 1893, yn 65ain oed, er galar a cholled ddirfawr, nid yn unig i'w deulu, ond hefyd i'r eglwys y bu yn aelod ac yn swyddog mor ddefn- yddiol ynddi am gynifer o fiynyddau. Traddod#yd iy sylwadau canlynol yn nghapel Radnor Street, y nos Sabbath ar ol ei gladdedigaeth.) " Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr wiiawn: canys diwedd y gwr hionw fydd tangnefedd". —Salm xxxvii. 37. tAN oe^d y llenor enwog Addison, yn gorwedd ar ei wely angeu, fe du óohboneddwr ieuanc, o dueddiadau anffyddol,i mewni'r ystafell i edrych arn dano. Estynodd Addison ei law deneu a gwywedig allan, a chan yraaflyd yn dirion yn llaw y psndefig ieuanc, fe ddywedodd •rtho—" Deuwch yma, fy nghyfaill, a gwelwch y modd y gall Cristion w." Ac yn gyffelyc i hyn y mae y Salmydd, yn y testun, yn gwahodd iudo honom ninau i edrych ar ddiwedd dedwydd y dyn da, "Ystyr y jffaith, ac edrych ar yr uniawn: canys diwedd y gwr hwnw fydd tang- fedd." Mae gormod o duedd yn y byd i esgeuluso talu y sylw a'r parch priodol i dynion da a duwiol, Ar ddynion mawr, yn hytrach nag ar ddynion da, y mae y byd yn edrych. Fe delir llawer mwy o barch yn gyffredin i wisg dda nag i gymeriad da, ac i dalent a chyfoeth nag i rinwedd a sancteidd- rwydd. Ond y mae hyny yn beth pell iawn o'i le—"Y cyíiawn a ragora ar ei gymydog;" uc am hyny y mae y duwiol yn deilwng o fwy o sylw a pharch,