Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Hen GYF.-888. MAWRTH, 1896. Cyf. Newydd.—288. DEFFROAD CENEDLAETHOL YN NGHYMRU YN EI BERTHYNAS A DUWINYDDIAETH. GAN PROF. ANWYL, M.A., ABERYSTWYTH. |R'S rhai bìynyddoedd bellach, y mae ein clustiau yn gynefin â ^ chlywed am y Deffroad Cenedlaethol yn Nghymru, ac y mae llawer o honom eisoes yn dechreu gofyn yn ddifrifol y cwestiwn, Deffroad i ha beth ydyw? Dadblygir a pherffeithir cyfnndrefn addysg ein gwlad o ddydd i ddydd o'r ysgolion elfenol hyd at y Brifysgol, ond rhy brin y gofynir yn aml, beth ydyw amcan terfynol yr holl addysg a gyfrenir. Mae byd swleidyddol y genedl wedi bod er's tro, mewn cryn ferw, ac yn sicr, y mae yn hen bryd i ni ddechreu gofyn y cwestiwn, beth yw ein hamcan- ion cenedlaethol yn y dyddiau hyn. Heb uncliaeth amcan, y mae yn ddigon eglur mai gwanhaa fwy-fwy a wna ein nerth, ac mai ofer fydd i ni ddysgwyl am y gwelliantau y rhoddasom er's blynyddoedd ein bryd a'n serch arnynt. Yn myd crefyddol a duwinyddol y genedl, mae lle i ofni fod dylanwad gwleidyddiaetb, sc hyd yn nod addysg wedi creu anhawsderau newyddion. Cawn ìawer o'n gtvyr ieuainc wedi eu llyncu i fyny gan fater- ion gwleidyddol, ac yn bur ddibris o bynciau duwinyddol. Mae Uawer o'n cynulleidfaoedd wedi myned yn hynod ddifater mewn llawer man i bregethau aihrawiaethol yn cynwys gwirioneddau dyfnaf yr efengyl am ffordd i gadw pechadur, a rhoddir mwy o lawer o le i'r ffug-chwedl nag i'r Beibl. Fe geir hefyd mewn rhai cyfeiriadau enwadgarwch wedi ei ddiystyru gymaint, fel nad el yr hwn sydd yn ei ddiystyru mwyach i unrhyw le o addoliad, os nad yn awr ac yn y man i'r Eglwys Sefydledig. ^Nid deffroad cenedlaethol i ystad o ddifaterwch tuag at grefydd a duwinyddiaeth yw yr hyn sydd arnom ei eisieu, eithr yn hytrach, y cyfryw ddeffroad ag a fydd yn feithrinfa i'r holl bethau hyn, nes creu mwy o garind tuag atynt yn ein gwlad nag erioed o'r blaen. Ychydig o ddaioni ellir ei ddysgwyl oddiwrth genedl ag y bydd ei harweinwyr yn amheuwyr neu yn ddifater o bethau crefydd. Nid er mwyn galluogi dyn i ymladd ei ffordd yn y byd, ac enill ei fara beunyddiol yn unig y dylid perffeithio cyfundrefn addysg ein gwlad, nac ychwaith i barotoi gwyr ieuainc i'r senedd, ond yn hytrach, i ffurtìo cymer- iad mor gryf yn nghyfangorff y genedl, fel nas goddefir troion iselwael a'r cyffelyb yc ei harweinwyr. Lle y ceir cenedl gref ei chymeriad, nid edrych a wna hi ar yr hyn a ddywedir gan ei harweinwyr, ond ar yr hyn a wneir ganddynt. Cenedl wan a ymhyfryda yn hyawdledd ei phenaethiaid heb edrych yn mhellach na hyny. Lle b^nag y mae amheuaeth yn rghylch pynciau hanfodol, y mae gwendid