Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf,—885. RHAGFYR, 1895. Cyf. Newydd—285. TWYLL A CHOSB PECHOD. GAN Y TARCH. E. A. JONES, MANORDILO. :AE pechod yn digio üuw, yn niweidio cymdeithas, ac yn gwneud "cam" a'r pechadur ei hun; mae yn waeth nag anffawd, yn ddyfnach na gwendid, ac yn gasach na chamsyniad—mae yn elyn Duw, yn rhwystrwr trefn, ac yn fwrddwr dedwyddwch bodau teimladwy. Mae o ran ei natur yn gwenwyno bodolaeth, yn dolurio cariad Duw, ac yn amcanu diorseddu y Duwdod, a gwneud y greadigaeth fel plentyn amddifad heb neb i ofalu am dani nac i gydymdeimlo â hi, ond ei gadael mewn oerfel a thywyllwch, ac angen, ac unigrwydd, nes mae ei bodolaeth yn boen, a'i hymwybyddiaetb yn gosbedigaeth chwerw, Os caiff pechod oruchafìatìth ar ddyn, da füLsai iddo pe nas ganesid ef; ond nis gall ddianc rhagddo ei huD, nac o wyddfod Duw, na rhag dùiledd deddf doredig, na rhag melldith ei gyd-bechaduriaid, na gwawd ei demtwyr uffernol, "ei anwiredd ei hun a ddeil yr annuwiol, efe a ddelir â rhaffau ei bechod ei hun," "Ei bechod a'i goàdiwedda." Ond, er cydnabod drygedd pechod, a sicrwydd ei gosbedig- aeth, rywfodd mae teimladau dynion wedi caledu, eu golygiadau wedi cyf- newid, fel nad yw pechod mor ddu yn ei golwg, nac arswyd uffern mor ddwfn yn ei calon—mae eu syniadau yn fwy agored, eu cydwybodau yn fwy celyd, eu hargyhoeddiadau yn fwy arwynebol nac yn yr oesoedd o'r blaen. Mae ysbryd ein ilen^ddiaeth, arddull y pwlpud, a iaith ein cyfeillachau yn profi hyn. Mae hanes y ddau ganrif diweddaf yu egluro y cyfnewidiad hwn yn ein golygiadau Duwinyddol a Moesol, i raddau o leiaf. Yn meddyliau y Puritaniaid, deddf oRàà yn oruchaf; ac yr oedd Duw fel Barnwr cyfiawn, a llywodraethwr moesol iddynt hwy yn dân yso), a llosgfeydd tragwyddol. Vr oedd eu gweledigaeth o Dçluw fel Duw'r cariad, a'r Tad tyner, yn an eglur; iddynt hwy yr oedd y Brenin yn fwy na'r Tad, ac nid y Tad ya cynwys y Brenin. Ýr cedd yr amseroedd blinion a welent, a'r erledigaethau creulawn a deimlent, yn eu gweithio yn naturiol i hyn, ac o ganlyniad yr oedd eu hatbrawiaethau yn gelyd a didosturi, yr oedd uffern iddynt yn fflamau o dân sylweddo!, a mwg y boenedigaeth yn tywyllu'r wybrenau fel na welent ond anfynych drem ar dynerwch cariad a gras; ac nid oeddhyn mor rhyfedd pan ystyriora y gwaith oedd ganddynt i'w wneud, sef llosgi anialwch pechod, yr hwn oedd yn llawn o bob llygredigaeth, enawd ac ysbryd; rhaid oedd wrth ysbryd gwrol, llaw gref, ac ewyllys anhyblyg; ac yn y frwydr ofnadwy oedd ganddynt i'w hymladd yn wladol a chrefyddol, collasant i raddau "Dad eu hysbrydoedd," yn "Arglwydd y rhyfel," gwelenty cleddyf dysglaer, ond ni welent y llaw Dadol a'i llywodraethai, Ond y mae hyn oll ynom wedi cyfnewid, a gwaith y Puritaniaid wedi ei wneud, a ninau yn medi o'r 2k