Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf—884. TACHWEDD, 1895. Cyf. Newydd.-284. ANERCHIAD I FYFYRWYR COLEG BALA-BANGOR. GAN Y PARCH. D. ROBERTS, D.ü. ^giONEDDIGION,—Ystyriwyf chwi nid yn unig yn foneddigaidd, fel y J^ mae pawb sydd wedi derbyn crefydd yr Argíwydd Iesu Grist, eithr yn eich swydd yn foneddigion urddasol. A gobeithiaf na wna yr un o honoch byth ddim a lychwino urddas eich swydd. Yr ydwyf yn eich anerch fel pregethwyr. Yr ydych wedi myned drwy yr ordeal o gael eich neillduo, neu fel y dywedir, eich codi yn bregethwyr; a chryn dânbrawf oedd hwnw. Nid ychydig fu y chwysu a'r crynu ar yr adeg hono. Ac nid drwg i gyd fyddai cael ambell bangfa o hono eto. Nid dyfod yma i gael eich gwneud yn bregethwyr a wnaethoch. Nid oes yr un athrofa a all wneud pregethwr. Rhaìd ei fod wedi ei wneud yn bregethwr cyn dyfod yma. Nid oes yma un gallu i greu o ddim. Rhaid cael y defn- ydd ynoch. Yr wyf fi yn credu bod yn rhaid i'r pregethwr, yn ogystal a'r bardd, gael ei eni felly. " Nis gall y cerfiedydd perffeithiaf wneud un cerfwaith oni bydd yn y telpyn marmor." Yr oedd Paul wedi ei neillduo o groth ei fam, er bod cryn dymhor wedi myned heibio cyn iddo gael ei alw. Yr oedd efe yn " llestr etholedig i ddwyn enw Crist gerbron y Cen- edloedd, a brenhinoedd, a phlant Israel." Ond y mae yma fanteision dir- fawr i dynu alìan yr hyn fyddo mewn dyn ieuanc i goethi ei chwaeth, ac eangu ei alluoedd meddyliol, a'i gymhwyso i allu symud deall yn gystal a chalon ei wrandawyr. Yr ydym yn cymeryd yn ganiataol eich bod wedi credu yr efengyl, wedi ei theimlo yu ei hawdurdod dwyfol cyn rhyfygu myned i'w phregethu; eich bod yn ddynion duwiol. Yr oedd y meddwl, "wedi iddo bregethu i eraill, bod ei hun yn anghymeradwy," bron a llethu yr Apostol Paul! Hen enw y prophwyd gynt oedd "gwr Duw." A gelwir y pregethwr yn y Testament Newydd yn " wr Duw," a "dyn Duw." Cyn bod yn wr Duw, yn ddyn Duw, rhaid bod yn Mentyn Duw. Pa beth bynag fyddo talentau, galluoedd, a dysgeidiaeth un, nid yw yn ddyn Duw heb fod yn Uentyn Duw. Y mae gan Dduw lawer o " blant" nad ydynt yn yr ystyr yma yn " ddynion," yn "wŷr Duw." Ond ni osododd Efe yr un dyn yn y swydd heb fod yn llentyn. Rhaid bod perthynas bersonol. Rhaid i bob un a ofyno, "Gwna fi fel un o'th weisioo," allu dweyd hefyd, " Fy Nhad." Ni oddef yr Argìvvydd estroniaid i fugeilio ei braidd Ef. Cyn rhoddi Pedr yn ei swydd i fugeilio ei ddefaid, a phorthi ei wyn, yr oedd yn rhaid iddo allu dweyd ei fod yn ei garu Ef, a hyny dair gwaith drosodd. ( Gwel y rheswm paham.) Y mae yma bethau yn nglŷn â'ch gwaith na wna neb hwy ond oddiar gariad. Cariad Crist sydd i gymhell at y gwaith, a chariad yn unig a geidw un yn y gwaith i'w gyflawni yn onest ac yn ffyddlawn. 2G