Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.—883. HYDREF, 1895. Cyf. Newydd-283. PERFFEITHRWYDD CRISTIONOGOL. GAN Y PARCH. D. STANLEY DAVIES, LLANBRYNMAIR. "Byddwch chwi, gan hyny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr Hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith," Mat, v. 28. MAE adood y tesfcun yn rhagdybied— 1. Fod natur dyn a natur Duw yn äebyg iyw gîlydd. Y mae dau beth yn yr adnod yn awgrymu hyn. „____, . (à) Y mae gwaith Crisfc yn yr adnod yn anog dyn i fod fel Duw mewn perfTeithrwydd yn awgrymu, i'e, yn cynwys tebygolrwydd yn natur dyn i, natur Duw. Y mae yn anmhosibl i wrthddrycb.au o natur wahanol ymdebygoli i'w gilydd. "Pa gymnndebsydd rhwng goleuoi a fchywyllwch?" Dim o gwbl, oblegid y maenfc yn hollol wahanol o ran eu natur—y mae y naill natnr yn cau allan yn llwyr y natur arall. Pa gyfeillach sydd rhwng llew ac oen? Dim, oblegid y mae eu hanianawd yn gwbl wahanol. "Pa gysondeb sydd rhwng Crist a Belial?" Y mae natur Crisb mor wabanol i natur Belial ag yw tân i ddwfr. Megys ag y mae adar o'r un lliw sydd yn ehedeg i'r un lle, felly hefyd gwrthddrych.au o'r un natur yn unig sydd yn medru ymdebygoli i'w gilydd. Mae gwaith yr Iesu yn galw ar ddyn i fod yn debyg i Dduw mewn perffeithrwydd yn cynwys fod natur y naill yn debygi natur y llall. A dysgir y gwirionedd hwn yn benodol ac eglur mewn lleoedd eraiJl o'r Beibl. Yn nechreuad y Llyfr Ysbrydoledig dywedir, "Felly Duw a greodd y dyn ar ei ddelw ei Hun. A'r Arglwydd a anadlasai yn ei íîroenau anadl einioes, a'r dyn a aeth yn enaid byw." (b). Y mae gwaith yr Afchraw nefol yn y testun yn dweyd fod Duw yn Dad i ddyn yn cynwys fod natur y naill yr un fath a natur y llall. Y mae y tad mewn amryw o bethau yn wahanol i'w blentyn, ond yr un fath yn hollol yw natur y naill a natur y llall. Fel y mae Duw yn Dad i ddyn, a dyn yn fab i Dduw y mae natur y naill yr un fath a natur y llall. Y mae yn wirionedd fod Duw yn fwy bebyg i ddyn, a dyn yn fwy tebyg i Dduw nag y mae duwinyddion yn gyffredin yn gyfaddef. Byddwn yn edrych gormod ar ddyn trwy ei gorff." Dylem gofio mai y rhan leiaf distadlaf o ddyn yw ei gorff. Y meddwl, yr ysbryd, yw y rhan bwysicaf, yr ysbryd yw y dyn. Trwy yr ysbryd y aiae dyn yn tebygoli a dynesu at Dduw. Ac yn yr ystyr hwn y mae Duw a dyn yn debyg i'w gilydd. Ddywed dim o'r Beibl mai gallu yw Duw, ond dywed y Beibl yn groew mai cariad yw Duw. i çwyddom fod dyn fel Duw yn medru caru, a'r dyn sydd yn caru fwyaf dy^ayr nn tebycaf i Dduw. Dywedir yn y Beibl fod gan üduw serchiadau a theimladau dynol, y mae gweled dyn yn troi ullan yn ddrwg yn peri gofid iddo, ac y ẅae gweled dyn yn dychwelyd i lwybr rhinwedd yn aohosi gor- 8ö