Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf—882. MEDI, 1895. Cyf. Newydd—282. YSBEYDOLRWYDD Y DDEDDF FOESOL. GAN MR8. ANNfS GRIFFITHS, CAHRGWRLE. YLFAEN crefydd yw bodolaeth, cymeriad, a llywodraeth Duw, ac mae dedwyddwch y creadur yn sylfaenedig ar ei ufudd-dod i'w Greawdwr. Mae Duw yn Uywodraethu pob pethtrwy ddeddfau, a'r rhai hyny yn gyfatebol i natar y pethau a reolir; mae yr ani- feiliaid direswm o dan ddeddf, yr hon a alwn ni yn reddf. Mae dyn fel creadur anianol o dan lywodraeth deddfau anianol; ac fel bod moesol a deallol rhoddwyd iddo y ddeddf foesol, yr hon sydd yn sylfaenedig ar natur Duw a dyn yn eu perthynas â'u gilydd. Mae y ddeddf hon yn gyd-oesol â'r natur ddynol, rhoddwyd hi i Adda yn Eden fel arddangosiad o gymeriad, ac aralygiad o ewyllys Duw, yr hyn yw sylfaen pob deddf a roddodd Duw i'r byd. Rhoddwyd hi wedi hyn yn gynwysedig mewn deg o orchymynion ar fynydd Sinai. Cawn ddigon o brofion ac 3Dghreifîtiau o'i bodolaeth yn y byd cyn hyny. "Canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd; eithr ni chyfrifír pechod pryd nad oes deddf," Rhuf. v. 13. Gwelwn hi yn euog- rwydd Adda yD ymguddio ar ol ei throseddu, a'r ddedfryd ofnadwy a rodd- wyd arno, yn dangos echryslonrwydd y pechod, "Y mae y ddeddf yn peri digofaint,'* Rhuf. iw 15. Gwelwn Cain yn tori y chweched gorch- ymyn, a chyhuddiadau ei gydwybod euog yn peri iddo ffoi. Mae lladrad yn cael ei gondemnio gan Jacob pan ddywedodd wrth Laban, "Gyda'r hon ycefTych dy dduwiau, na chaffed fyw," a'r un modd y llefarodd meibion Jacob am gwpan Joseph a guddiwyd yn saoh Benjamin. Gwelwn anmharch i rieni yn cael ei gosbi yn Cham mab Noah. "Canys digofaint Daw a ddat- guddiwyd o'r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion," Èhuf. i. 18. "0 herwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw sydd eglur ynddynt hwy—hyd onid ydynt yn ddiesgus." Tebygol yw fod yr hya oedd yn ddatguddiedig o ewyllys Duw cyn rhodd- iad y ddeddf ar Sinai, yn cael ei drosglwyddo o berson i berson, acyn deuluol. Erbyn i deulu Jacobddyfod o'r Aifft,yr oeddynt wedi cynyddu yn genhedlaeth luosog, yr oedd gorthrwm yr Aifft wcdi eu cylymu wrth eu gilydd trwy gyd- ddyoddef, a gwaith Duw yn y pläau wedi eu dwyn i weled rhagoroldeb ac anfeidroldeb eu Duw hwynt ar yr boìl eüunod, canys yr oedd y pliiau wedi eu cyfeirio yn erbyn pethau a addolid gati yr Aiphtiaid; wedi hyny yr oedd eu gwaredigaethau rhyfeddol o'r Aifft, ac wrth y Mor Coch wedi eu llenwi 0 gariad ato, a diolchgarwch iddo fel eu llamddiffynwr a'u Gwaredwr. Yr oeddynt fel hyn wedi eu parotoi i gael eu dwyn dan lywodraeth deddfan moesol a gwladol; tuedd pob gorthrwm ar genedl yw ei diraddio a'i gffnenthar yn anll^wodrŵethue) felly yr oedd galwad noiUduol aro. rcddiftd f