Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. HenGyf.— 881. AWST, 1895. Cyf. Newydd—281. kw YR EGLWYS A'R WEINIDOGAETH.* GAN Y PARCH. D. JONES, CAPEL HELYG. DDWY hyn un ydynt, oblegid y mae undeb annatodol rhyngddynt o'r dechreuad. Megys y mae undeb yr haiarn a'r dur, trwy asiad fJÜT celfyddgar â'u gilydd, yn ffcrfio yr offeryn defnyddiol a'r arf miniog; neu fel y mae uodeb corff ac enaid yn gwneud dyn yn fod cymhwys at y gwaith naturiol ac ysbrydol sydd ganddo i'w gyflawni; felly y mae yr eglwys a'r weinidogaeth wedi derbyn eu bodolaeth trwy dref niad Anfeidrol Ddoethineb. Nid yw yr eglwys i fodoli heb y weinidogaeth, na'r weinid- ogaeth heb yr eglwys. Diau y rhaid bod eglwys cyn y bydd gweinidog, neu fugail arni. Nid y weinidogaeth roddes fodolaeth i'r eglwys, ond yr eglwys roddes fodolaeth i'r weinidogaeth. Rhaid fod dyn yn aelod eglwysig cyn y bydd yn gymhwys i fod yn weinidog efengyl. 0 fysg y dysgyblion y dewisodd Orist ei apostolion a'i efengylwyr. Yr un rheol a gedwid yn fanwl yn yr oes apostolaidd, ac a ddylai gael ei chadw byth. Y crefydd- wyr goreu, ffyddlonaf, y rhai a feddianent alluoedd mwy nag eraill i wneud daioni gyda chrefydd—y rhai hyny a neillduid i'r weinidogaeth er ymgyf- lwyno yn llwyrach i waith ysbrydol yr eglwys. Yma teimlwn ein bod yn myned i faes rhy eang o lawer i'w gymeryd yn ei holl agweddau, yn y gofod byr sydd genym. Gan hyny, rhaid ymgyf- yngu o eangder maes ein testun at ryw gyfran neillduol o hono. Y rhan a ddewiswn ydyw, DYLEDSWYDD YR EGLWYS I HELPU Y WEINIDOGAETH I ACHUB Y BYD, oblegid cydwaith yr eglwys a'r weinidogaeth ydyw. Addefwn yn rhwydd mai pregethiad yr efengyl yw y prif foddion, o'r oll a gyflawnir gan ddyn- ion yn nygiad hyn oddiamgylch; ar yr un pryd, ofnwn fod yr eglwys yn dysgwyl gormod wrth y weinidogaeth yn y mater yma. Hyderwn y gallwn ddweyd yn ddibetrusder fod y weinidogaeth yn gwneud ei gwaith yn gan- moladwy,—y pregethau yn dda a gafaelgar, wedi eu hastudio yn fanwí,— y traddodiad o honynt yn dderbyniol a chymeradwy, ac ymdrech deg, feddyliem, i bregethu " holl gynghor Duw." Eto rhaid addef nad yw y llwyddiant yn gyfryw ag y dylai fod. Os nad yw, rhaid fod rhyw achos o hyny. Yr wyf yn ofni mai wrth ddrws yr eglwys y gorphwys yr aflwyddiant yn benaf, oblegid y mae gan yr eglwys ei gwaith, a rhan bwysig iawn o'r gwaith i gael ei wneud ganddi hi yn nychweliad y byd at Grist. Dylai pob aelod eglwysig gofio, nad yw bodolaeth y weinidogaeth yn llei- •Sylwadau a wnaed yn Nghynadledd Cymanfa Annibynwyr Sii Gaernarfon, yn Bethesda, Meh. 24ain, 1895, wrth ymneillduo o'r gadair.