Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

266 SCORPION. ar Arweddau Presenol Duwinyddiaeth, ddarllenwyd yn yr Undeb yn Llan- elli yn 1884. Dywedai ein bod yn agored i ddau berygl difrifol sef—(1.) Aros yn yr un man er pob goleuni newydd rydd y nef a'r ddaear, nen. (2.) Dori yn rhyfygus dros ben yr hen derfynau, cyn bod sicrwydd yn ei gafael. Am y newydd dywed,"Rhaid i'r golenni'fod o'r iawn ryw, a phan ddaw hwnw, daw fel y wawr o lygaid Duw i lygaid dyn yn gryf ac argyhoeddiadol; ond hefyd yn dyner ac araf, neu raddol, a dylem osod ein hnnain mewn man cyfleus, fel yr adeiladai pobl y dwyrain gynt eu dinas ar fryn, er mwyn iddynt gael dal pelydrau cyntaf haul y boreu, fel y b'o i ni allu derbyn pob mymryn o hono mor fuan ag y b'o modd. Dylem fel hyn wylio yn ofalus, ac hyd y mae ynom, yn ddeallus, ddarganfyddiadau yr oes, ac wedi cael allan fcd yr hyn gymhellir i'n sylw yn seiliedig ar natur pethau, ac nidar ddychymygion neu gamsyniadau dynion, dylem eu derbyn yn ddiymdroi. Tra y gall petrusder i wneud hyn ymddangos yn debyg i barch i wirioneàdau cysegredig, nid ydyw mewn gwirionedd ond diffyg ffydd ynddynt." Bu yn ddyoddefydd mawr yn mlynyddoedd olaf ei rywyd, ni bu erioed yn gryf, ond yn niwedd ei oes nychodd ei iechyd. Effeithiodd yr anghydwel- edidd blin yn ngl}rn â'r Coleg yn ddirfawr arno. Nid oedd dim ond cariad cryf at y gwaith yn ddigonol i'w gynal yn ngwyneb arngyJchiadau mor an- fanteisiol. Er mor anhawdd iddo oedd cyflawni ei ddyledswydd ni cheisiai ei hysgoi. •* Dyna hoelen arall wedi ei gosod yn fy arch," meddai y di- weddar Proffeswr George Wilson pan wedi traddodi un o'i ddarlithiau. Gallasai y Prifathraw ddywedyd yn. gyffelyb. Gwyddai fod perygl iddo wrth llafurio çormod. Bu yn rhaid iddo fyned am fordaith i Madeìra i geisio adferiad icchyd, a dyna oedd ei neges ar ei daith i Naples, o ba un ni ddychwelodd. Dywed Elfed am bersonau sydd wedi hir frwydro dros iawnderau, nad ydynt wedi eu gadael yn unig. Cafodd gwrthddrych y sylwadau hyn ei nerthu lawer tro. "Angel dystaw, gwyn, Ddaeth dros ael y bryn, Hwnw yn ei ymyl safodd, Syllodd ar ei ing,—a gwenodd:— Brodyr ìddo ef Sydd yn llanw'r nef." Y darlun goreu dynwyd o hono yn ol syniad y diweddar Brifathraw yw yr un sydd ar y wyneb ddalen, o eiddo Mr. T. Mills, Gíarth, Bangor. SCORPION. GAN MR. W. R. OWEN, LIVEFPOOL. YSGRIF V. 'STORM FAWR-" OCHENEIDIAU Y WEINIDOGAETH." jCHENEIDIAU y Weinidogaeth" oedd penawd ysgrif yn y Dysgedydu am Tachwedd, 1848, a yrodd enw Öcorpion ar adenydd y gwynt i bob parth o'r wlad lle y ceid dau neu dri 0 Annibynwyr wedi ymgynull, ac a barodd fwy o gynhwrf yn yr enwad na dim a ymddangosodd ar ddalenau y cylchgrawn parchus ar hyd ei oes faith. Cyfeirid yr ysgrif at eglwysi y gweithfeydd, a'i hamcan oedd dangos fod