Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.—879. MEHEFIN, 1895. Cyf. Newydd—279. "DIACONIAID YN EU PERTHYNAS A'R GENADAETH." GAN Y PARCH. T. HUGHES, CATHAYS, CAEHDYDD. jWY gweddus, o bosibl, fuasai i rywun hŷn a mwy profiadol ysgrif" enu ar y testun rhoddedig hwn, a haws i ddiaconiaid wrando ar un F<ÊL o honynt hwy eu hunain yn ymdrin âg ef. Buasai yn dda genym ni, wemìdogion, glywed un o wŷr y sêt fawr yn darllen papyr ar y Genad- aeth o'u safbwynt hwy, ond wrth reswm, òuasai yn ofynol iddo fod yn un sydd a " mawr ofal calon " am yr achos hwn. Pa fodd bynag, ymddiried- wyd y gorchwyl i mi, a chydsyniais oddiar argyhoeddiad o briodoldeb y testun a'r angenrheidrwydd am ei ddwyn i sylw. Mae geiriad y testun, feddyliwn, yn awgrymu dau beth:—1. Fod gan y Genadaeth hawl neillduol ar gefnogaeth diaconiaid yn rhinwedd eu swydd. 2. Fod lle i ofni nad yw yr achos hwn yn cael y gefnogaeth a deilynga ganddynt fel dosbarth. I. Dywedwn fod gan y Genadaeth hawl neillduol ar gefnog- AETH DIACONIAID YN RHINWEDD EU SWYDD. Ein hymffrosfc fawr ni fel Annibynwyr yw, mai eglwys y Te«tamenfc Newydd yw y model yn ol pa un y ceisiwn ddwyn yn nalaen ein gweifchred- iadau eglwysig. Priodol, gan hyny, fyddai cyfeirio at 1. Gysylltiady diaconiaid cyntafy mae genym hanes am danynt â*r gwaith Cenadol. Os edrychwn i hanes y "seithwyr da eu gair" a etholwyd gan yr eglwys yn Jerusalem i "wasanaethu byrddau," cawn fod dau 0 honynfc wedi enwogi eu hunain yn nglŷn â helaethiad terfynaa yr efengyl. Ymddengys nad oedd gan yr apostolion na'r eglwys ddim mwy mewn golwg nag iddynfc weithredu fel math 0 Board of Guardians neu Relieving Officers. Gofalu am anghenion corfforol y tlodion perthynol i'r eglwys, neu, yn iaibh arfer- edig y dyddiau hyn, edrych ar ol materion amgylchiadol yr achos,—dyna'r gorchymyn a gawsant gan swyddogion uwchaf yr eglwys. Ond ni fa Sfcephan a Phylip, beth bynag am y pump diacon arall, fawr o amser cyn tori dros ben y terfynau gosodedig hyn, ac er syndod i ni, hwynt-hwy ddiaconiaid, ac nid yr apostolion, fuont yn offerynol yn llaw Pen yr Eglwys i gychwyn y Mudiad yn Mlaen gyda'r Genadaeth. Gwasanaethodd Stephan yr achos Cenadol drwy ymresymu o'i blaid yn y synagogau ac o flaen y Sanhedrim, yr hyn a wnaeth gyda'r fath ddoethineb ac ysbryd fel nas gallai yr Iuddewon ei ateb. Profodd fod Duw gynt wedi rhoddi amlygiadaa o hono ei hun fcuallau i derfynau l^alesfcina, ac nas gellid cyfyngu ei bresenol- deb i unrhyw fan neillduol. A chyhoeddodd yn ddifloesgni fod addoliad lleol a seremoniol i roddi ffordd i addoliad cyffredinol ac ysbrydol, a'r Cen- edloedd i ddyfod i feddiant o'r un rhagorfreintiau a'r Inddewon. Costiodd yr athrawiaeth newydd hon ei fywyd iddo; llabyddiwyd ef o'i herwydd; ond