Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.—878. MAI, 1895. Cyf. Newydd—278. ARWYDDION YR AMSERAU. GAN Y PARCH. JOB MILES, ABERYSTWYTH. (PaDur a ddarllenwyd yn Nghyfarfod Gweinidogion Aberystwyth, ac a gy- hoeddir ar ei gais.) flEB eich caniatad, ond mewa lbwn hyder yn eich hynawsedd, cymerais fy rhyddid i newid geiriad y testun. Heblaw fod y ffurf uchod yn ymadrodd ysgrythyrol, y mae yn fyr a chryno, ac eto yn cynwys yr oll a olygid yn y geiriad gwreiddiol. Beth ydyw gogwydd yr oes bresenol? Beth ydynt arwyddion yr amserau? Er mwyn trefn ac eglurder, dosrenir yr arwyddion i dri math. I. Yr árwyddion hyny sydd yn ddiamheüol anffafríol. Diau y cytuna pawb i gydnabod fod yn yr oes hon er cystal ydyw ar- wyddion sydd yn ddiamheuol anffafriol. 1. Gor-awydd am ddifyrwch. Nid wyf yn petruso enwi hwn yn nghyntaf, am y rheswm syml ei fod yn un o arwyddion amlycaf ein dyddiau ni. Daw i'r golwg yn mhob cyfeiriad. Nid ydym ni sydd yma yn condemnio di- fyrwch o fewn terfynau cyfreithlon, a chamgymeriad mawryn ein tadauoedd gwneud hyny. Digon posibl fod y gor-awydd presenol yn ganlyniad ysbryd llym a gor-Buritanaidd pobl dda yr oes flaenorol. Ar ol gweithiad grymus bydd gwrthweithiad yn debyg o ganlyn. Wrth geisio gosod i lawr arfer- ion eithafol ac anghy medrol eu dyddiau hwynt, aethant mor bell a chondem- nio pob math o chwareu ynddo ei hun. Llwyddasant yn rhyfeddol yn eu hamcan, ac y mae yn brawf neillduol o nerth hen gymeriadau da y dyddiau gynt, Ofer, a gwaeth nag ofer, yw condemnio chwareu ynddo ei hun. Y mae difyrwch o fewn terfynau nid yn unig yn gyfreithlon, ond yn angen- rhaid iechyd. Y mae yr oen, a'r ebol, ac hyd yn nod y llo yn chwareu, a dywed y Pregethwr fod " amser i ddawnsio;" a phaham y gwarafunir i bobl ieuainc chwareu! Ood tra yn cydnabod yn ewyllysgar hawl pobl ieuainc i gael difyrwch, yn sicr y mae yn bryd gwrthdystio yn erbyn yr eithafion peryglua a welir y dyddiau hyn. Difrifol yw meddwl am yr holl arian a werir ar ddifyrwch. Er yr holl dlodi a'r trueni anaele sydd mewn dinasoedd mawrion fel Liverpool, eto talwyd wrth y pyrth i faes yr ymdrech ya y ddinas hono mewn un prydnawn dros ûl o bunau i ddim uwch na gweled cicio y bel droed; ac nid unwaith mewn oes y bu hyn, eithr cymer le yn dra mynych. Dywedir fod symiau cyffelyb yn cael eu derbyn mewn lleoedd poblog yn Nghymru—Oaerdydd ac Abertawe er enghraifft. Nid cyfoethogion, cofìer, ond gweithwyr oeddynt gan mwyaf. Cwynir yn fynych ar esgeulusdra cyfoethogion a mawrion y tir o'r tlodion yn eu hymyl, a djgon tebyg fod wil i*r cwyn, ond atolwg, a ydys yn dweyd mor groew ag y