Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf._876. MAWRTH, 1895. Cyf. Newydd-276. EFENGYL Y DEYRNAS. GAN Y PARCH. D. ADAMS, B.A. MAE yn amlwg hyd yn nod i'r sylwedydd mwyaf arwynebol, fod Cristionogaeth yn cymeryd gwedd mwy cymdeithasol yn yn ein dyddiau ni nag a wnai yn nyddiau ein tadau. Gwneir ymgais cynyddol i gyrahwyso egwyddorion y Testament Newydd at fywyd cymdeithas yn ei hamrywiol agweddau. Âdgofir ni fod y gair a gyfieithir yn "enaid" yn fynych yn golygu "bywyd," a'i fod o ganlyniad, i'w gymhwyso at ddyn fel perchenog corff a dealltwriaeth yn ogystal ag at ei nodweddion moesol ac ysbrydol. Y mae y cyfieithwyr Cymreig wedi diogelu y syniad eang yma, <¥Y neb a ewyllysio gadw ei tinioes a'i cyll." Nid enaid, ond einioes—yr oll o'i fywyd yn ei holl berth- ynasau amrywiol. Y mae pob rhan o ddyn i gael ei achub a'i santeiddio i wasanaeth Duw. Y mae un dosbarth yn tybied fod yma berygl yn nglŷn â hyn i ni ddarostwng urddas crefydd, a'i gwneud yn beth rhy gyffredin. Gelwir y gwaith yma gan y cyfryw yn "fydoleiddiad crefydd." Hwyrach mai yr atebiad goreu i'r wrthddadl ydyw cyfeirio sylw ein gilydd at fywyd ac esiampl yr Arglwydd Iesu ei hun. Nid yn unig pregethai ef a'i apostolion "Efengyl y deyrnas"—nid yn unig cyhoeddent fod "Teyrnas nefoedd yn nesâu," ond treuliai yr Iesu lawer o'i amser i gerdded o amgylch i wneud daioni, drwy wella anhwylderau cyrff dynion. Y mae Iesu, ys dywed Paul, yn iachawdwr y corff, mor wirioneddol ag yw yn iachawdwr yr enaid. Deuír i ganfod yn fwy-fwy eglur nas gellir achub yn llawn a hollol unrhyw ran o ddyn heb achub pob rhan o hono. Tuedd gwareiddiad paganaidd, meddir, oedd suddo daioni yr unigolyn yn naioni y gymdeithas y ffurfiai ef ran o honi. Yr oedd y corff cymdeithasol yn bwysig,ond nid oedd neb yn cysylltu gwerth mawr â'r aelodau oeddynt yn ei gyfansoddi. Caofyddír yr un duedd yn yr Eglwys Gatholic. Y mae Pabyddiaeth yc. rhoi arbenigrwydd ar werth a chyfanrwydd yr Eglwys, a hyny yn fynych ar draul dibrisio iawnderau yr unigolion sydd yn ei chyf- ansoddi. Y mae Protestaniaeth, ar y llaw arall, yn pwysleisio gwerth a phwysigrwydd yr unigolyn, ac yn dal fod yr Eglwys yn bod er mwyn yr unigolion, ac nid yr unigolion er mwyn yr Eglwys fel cyfangorff. Y mae Protestaniaeth wedi cyflawni gwasanaeth anmbrisiadwy i wareiddiad Ewrob drwy ail bwysleisio dysgeidiaeth yr Arglwydd Iesu o barthed i werth dyn fel dyn. Yr oedd y sylw a'r parch a dalai Iesu i'r publicanod a'r pechadur- iaid ỳn ddatguddiad newydd o werth uatur dyn fel y cyfryw. Ar wahan i safle cymdeithasol, i wrteithiad meddyliol, a moesoldeb cymeriad, y mae y posiblrwydd o'r oll, fel y maent yn oblygedig yn natur dyn fel y cyfryw,