Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. \< iaC Hen Gyf.—873. TACJiWEDü, 1894. Cyf. Newydd—273. OFFEIRIADAETH Y SAINT. GAN Y PARCH. B. DAVIES, TRELECH. *N o beryglon mwyaf dyn yw ceisio cadw yn fyw wahaniaethau a grewyd gan amgylchiadau arbenig, ond gwahaniaethau a ddylasent fod wedi eu dileu, am fod yr amgylchiad.au a roddodd fodolaeth iddynt wedi darfod. Mae gwybodaeth a diwylliant yn tynu i lawr yn gyflym ganolfuriau a godwyd ac a gadwyd i fyny gan anwybodaeth ac ofer- goeledd, a gwelir y bobl a fanteisiasant ar sefyllfa druenus cymdeithas, gan orthrymu y rhai a eisteddent yn mro a chysgod angau, yn gwingo yn erbyn y symbylau, gan ymdrechu hyd y gallant rwystro diwygiadau y dyddiau preseDol. Y mae rhyddid a gwirionedd yn graddol lefelu y byd, ac os caniateir iddynt hwy wneud y gwaith, fe gyrhaeddir yr amcan. G-wir fod perygl hyd yn nod oddiwrth ysbryd diwygiadol cymdeithas. Gwyddom]mai syniad llawer am wastadhau y byd yw, " darostwng bryniaa," gan anghofio fod eisieu " codi pantiau " hefyd. Nid oes eisieu i ysbryd diwygiadol yr oes ffurfio cymdeithasau i dynu llawer i lawr, y mae digon o allu at hyny yn nghalon cymdeithas ei hun. Gofala gwastraff, diogi, ac annhrefn am hyny. Syniad Uawer am lefelu yw tynu i lawr. Pe gellid taflu ysbryd ymddyrchafu drwy ddiwydrwydd a gonestrwydd i amryw o'r rhai sydd yn uchel eu llef yn erbyn anghyfiawnder a gorthrwm y byd, rhoddid llai o gyfleusderau i'r rhai a ewyllysiant wneud drwg, i'w gyfiawni. Gellir gor- weithio yr hyn sydd dda. Y mae un ymyriad yn gofyn am un arall. Os aeth pendulum yr awrlais yn rhy bell wrth ei gyffwrdd, ä yr un mor bell yr ochr arall; ond os gadewir iddo, gwelir ei fod o dan lywodraeth gallu a gyfartala ei symudiadau. Onid yw yn bcsibl bod y camddefnydd a wnaeth dynion o'u hawdurdod yn y gorphenol yn cyfrif am yr eithafion y mae cymdeithas yn dueddol i fyned iddo yn y dyddiau hyn? Hawliau dyn sydd yn cael y lle amlycaf yu y dyddiau hyn; dyn yn anni- bynol ar ei amgylchiadau, yn annibynol ar ei berthynasau, ac yn annibynol ar ei hanes. Ceisir dwyn i'w afael ef yr addysg oreu; rhoddir hono ar atnodau cymhwys i'w amgylchiadau, a gosodir y baich i bwyso mor gyfartal ag y gellir ar ysgwydd pawb yn ddiwahaniaeth. Ffurflr deddfau i ddiogelu gweithwyr y deyrnas rhag damweiniau a ellir eu hysgoi, a diogelir iddynt gyfiawnder mor bell ag y gall deddfau fyned heb beryglu eiddo arall. Pa bryd y daw y pleidiau a gynrychiolir gan gyfalaf a llafur i weled fod eu buddianau yn gorwedd yn yr un fan, ac nas gall y naill na'r llall lwyddo yn ystyr uwchaf y gair, ond mor bell ag y gweithredir oddiar gyfiawnder. Ceisir symud ymaith oddiar lwybrau ieueuctyd yr oes brofedigaethau sydd Wedi llusgo miloedd i angeu. Mae gogwyddiadau cymdeithas at gynhyrf- n '