Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.—872. HYDREF, 1894. Cyf. Newydd—272. CREF¥DD ABIAH. "0 herwydd cael ynddo ef beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel, yn nhŷ Jeroboam/' 1 Bren. xiv. 13. GAN Y PARCH. OWENT EYANS, D.D., LLUNDAIN. ^M y tywysog ieuanc hoffus ac addawol Ab'iah, mab y brenhin eilun- addolgar ac annuwiol Jeroboam, mab Nebac, y dywedir hyn; ac fe gafodd y geiriau eu llefaru wrth fam Abiah, a gwraig Jeroboam, gan hen brophwyd ffyddlawn i'r Arglwydd, o'r enw Ahiah, yr hwn oedd yn preswylio yn mhentref tawel a neillduedig Siloh, lle jr oedd tabernacl yr Arglwydd wedi bod am dymhor maith mewn oesau blaenorol. Jeroboam, fel y mae yn hysbys, oedd wedi sefydlu addoliad y ddau lo aur yn Israel; ac am hyny fe sooir am dano fel "Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu." Yr oedd Abiah ei fab hynaf, a'r unig un da o'i blant, yn gorwedd yn awr yn glaf yn un o balasau brenhinol ei dad, yn ninas brydferth Tirzah. Mae cystudd trwm y tywysog ieuanc yn peri trallod a phryder mawr i'w rieni; ac yn ei ifid a'i anesmwythder, y mae Jeroboam yn anog ei wraig i fyned i Siloh, at Ahiah y prophwyd, yr hwn oedd bellach wedi myned yn ddall yn ei heuaint—i ofyn iddo pa fodd y troai cystudd y bachgen. Nid yw yn anfon i ymgynghori â'i gau-brophwydi ei hun, am nad oedd ganddo fawr o hyder ac ymddiried yu y rhai hyny mewn cyfyngder. A'r un modd y ceir dynion annnwiol eto yu aml, yn troi at bobl Dduw i geisio eu help pan ddelo hi yn gyfyng arnynt. Ônd yr oedd ar Jeroboam ofn myned ei hunan at brophwyd yr Arglwydd, am fod ei gydwybod euog yn tystio nas gallai ddysgwy] i wr buw wneud dim ond ei geryddu a'i gondemnio yn llym am ei eilunaddoliaeth a'i ddrygioni. Ac na fynai i neb wybod ychwaith ei fod yn anfon ei wraig i ymgynghori â phrophwyd yr Arglwydd yn ei drallod; oblegid os deallai y bobl nad oedd y grefydd newydd, a sefydlasid gan y brenin yn y wlad, yn gwneud y tro i'r breniu ei han yn ei gyfyngder, byddai yn naturiol iddynt feddwl na wnai hi mo'r tro iddynt hwythau ychwaith. Yv oedd arno ofn hefyd, os deallai y prophwyd pwy oedd y wraig oedd wedi dyfod ato, y byddai iddo, un ai gwrthod rhoddi derbyniad iddi o gwbl, neu ynte y byddai iddo lefaru yn arw ac yn sarhaus wrtui. Ac felly^rhag i'r prophwyd na neb ar y daith ei hadnabod, y mae yn ei chynghori i roddi dillad un o'r morwynion am dani, ac ymddangos fel gwreigan dlawd a chyffredin, fel na byddai i neb a'i gweld ddychymygu pwy ydoedd. Ond druan o hono! Mor ynfyd ydoedd pin y dychymygai y gallai dwyllo prophwyd üuw trwy ryw ddyfais íîol fel hyn, a phan y meddyliai y gallai y prophwyd, trwy wybodaeth a datgudd- iad goruwchnaturiol, ddweyd beth a fyddai tynged y bachgen claf, ac na fedrai ar yr un pryd, ddeall pwy oedd y wiaig oedd wedi dyfod i ym-