Skip to main content

Y DYSGEDYDD. ■ - — : ■■ ■ ■ • ,: ■ ■ ■ 3 .• Hen Gyf.— 869. GORPHENAF, 1894. Cyf. Newydd—269. ■ ■ L ' ... ' -,■ í ATHRONIAETH Y DYFODOL. GAN Y PROFFESWR KERI EVANS, M.A., BANGOR. JoT^N yr ysgrif gyntaf gwelsom mai amcan Athroniaeth yw unoli pethaa yn feddyliol; yr unig wahaniaeth rhyngddi a'r gwyddorau ereill yw, ei bod yn ceisio cyfundrefnu y bydysawd i gyd, ac nid rhan o hono. Y cwestiwn y ceisiwn ymdrin âg ef yn yr ys^rif hon yw, Yn mha gyfeiriad y rhaid i ni, yn ngoleuni damcaniaethau y gorphenol, chwilio am yr unoliad iawn? Y mae dau brif fath gyda llawer o ffurfiau is wrth gwrs, yn ynigynyg n naturiol i feddwl yr athronydd oes ar ol oes, sef yw y rhai yn, Materoliaeth (MateriaHsm), a Delfrydiaeth (Idealism). Y mae ffurf eithafol y naill yn dal mai mater yw y cwbl, ac yn ceisio esbonio y delfrydol neu'r cyffredinol fel ffurf ar y materol. Y mae ffurf eithafol y llall yn maentumio mai y delfrydol a'r cyffredinol yn unig sydd wirionedd, ac nad yw gwahaniaethau pethau ond ymddangosiadol. Mae yn hawdd profì, fel yn wir y maé dadblygiad athrooiaeth ei hun i fyny hyd atom ni yn profî, nad yw y naill unoliad na'r llall yn ddigonol; mewn gwirionedd, fod yn rhaid cael y naill i gynal y llall. Ar y naill law, nid yw y delfrydol yn bosibl yn annibynol ar y materol; y mae yn anmhosibl meddwl heb feddwl am rywbeth; dyna paham y dywed Hume nad oes yna hunan (self) gwirion- eddol yn bod, canys mae y meddwl yn wastad yn cymeryd ffurf wrthddrychol, yn pásio allan, fel pe tai, i bethau. O'r tu arall, y mae yr un mor hàwdd dangos ei bod yn anmhosibl i fater fodeli ynddo, ac erddo ei hun. Oymerer dau ronyn a, b; fel gronynau o fater y mae y nail! y tu allan i'r ilall, ond sylwer, nid yw y naill yn bodoli y tu allan i'r llall yn annibynol ar ryw gydmariaeth o honynt, yr hon sydd yn dangos nad a yw b, ac nad b yw a. Ý mae yna ryw fath o resymeg ddechreuol yn oblygedig; i ddweyd foáaj tn allan i b (ac heb hyn nid yw mater yn ddim), rhaid cael ymwybyddiaeth nad yw y tu allan i a na b—ymwybyddiaeth, hyny yw, nad yw mewn 11$. Yn yr un modd, nid yw yr amserol yn bodoli ond i ymwybyddiaeth sydd y tu allan i'r amserol. Ar y llinellau hyn y mae Green yn profi foi y gread- igaeth faterol yn rhagdybied yr hyn a eilw efe yn Ymwybyddiaeth Dra- gwyddol.* Óymerer natur dyn i egluro y sylwadau hyn. Bydd hyn yn fanteisiol hefyd, am mai yn nghylch unoliad, fel y mae a fyno â natur dyn y mae yr ymryson yn benaf wedi bod. Yn awr, yn feddyliol, y mae dyn, ar y naill law, yn bod yn y byd, tra ar y llaw arall, y mae y byd yn bod iddo. Y mae y Materolwr yn pwysleisio y ffaith gyntaf, ac fel rheol, yn ceisio cyfrif am yr olaf fel ffrwyth profiad. Ý mae y Delfrydwr, o'r tu arall, yn cychwyn •Gweler ei Prolegomena to Ethìcs, Uyfr y dylasai pob un sydd yn teiralo dyddordeb yn nghwestiynau dyfnaf bywyd ei ddarllen.