Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.— 868. MEHEFIN, 1894. Cyf. Newydd—268. GOGWYDDIADAU DUWINYDDOL YR OES. GAN Y PROF. J. II. DAYIES, M.A., COLEG BàLA-BANGOR. |EL rheol, penderfynir symudiadau a gweithrediadau amddiffynwyr gwlad neu ddinas yn amser rhyfel i fesur heiaeth gan eiddo y fyddin ymosodol. Os yma neu acw y gwneir yr ymosodiad—lle yr ymosodo y gelyn, yno yr ymgasgl yr amddiffynwyr. Yn gyffelyb, penderfynir nodwedd a chyfeiriad ymdrechion "amddiffynwyr y ffydd" i raddau gan eiddo eu gwrthwynebwyr Nid ar yr un athrawiaethau yr ymosodir bob amser. Nid yr un yw "pwnc y dydd" bob dydd. Fel y mae'r gwirionedd yn gorchfygu ac yn enill tir, y mae yr ymosodwyr yn newid eu saüe a'u catrefn (tactics). Y mae rhai agweddau i'r gwirioneddy bu llawer o ddadleu yn eii cylch unwaith, erbyn hyn yn "bethau a gredir yn ddiamheu" hyd yn nod yn mhlith yr ymosodwyr eu hunain. Y mae "arfau y filwriaeth" hefyd, wedi newid. Nid yr un math o wrth-ddadleuon ddygir yn erbyn yr un athrawiaethau yn mhob oes. Ni fuasai yn fwy afresymol ac ofer i filwyr Ffrainc anturio i'r maes gyda bwa a saeth, a ffon dafl yn erbyn yr Ellmyn gyda'u dryll a'u magnel yny rhyfelmawr diweddaf nag a fyddai i amheuwyr ac anffyddwyr Ffrainc ymosod y dyddiau hyn gyda gwrth-ddadleuon eu cyndadau ar athronwyr a duwinyddion goleuedig uiiiongred yr Almaen. Ceir enghreifftíau o'r ymosodol yn dylanwadu fel hyn ar ffurf a chyfeiriad yr amddiffynol, nid yn unig yn Nuwinyddiaeth yr oesan, ond hefyd yn y dadblygiad o'r Datguddiad Dwyfol ei hun yn Epistolau Paul, ac Ioan. Mae'n amlwg mai heresiau a ffynent yn mysg y rhai yr yagrifenid atynt oedd prif achlysuron ysgrifeniad rhanau helaeth a phwysig o amryw o'r llythyrau yn y rhai y dadblygir ac yr eglurir mewn ffurf am- ddiffynol rai o wirionedd-iu sylfaenol Cristionogaeth. Pan y mae Duw- inyddion, gan hyny, yn eu sel dros burdeb yr athrawiaeth yn crynhoi eu hymadferthoedd i'r cyfeiriadau hyny o'r rhai y daw y prif ymosodiadau ar y gwirionedd, nid ydynt ond yn gwneud yr hyn y bu wiw gan "ddynion santaidd Duw," gynt ei wneud, "megys y cynhyrfwyd hwynt gan yr Ysbryd Glan." Ac nid anfuddiol, hwyrach, yn y dyddiau cynhyrfus hyn, fyddai galw i gof drachefn a thrachefn yr ysbryd a'r dull yn y rhai yr ymddygai yr amddiffynwyr cyntaf at gyfeiliornwyr eu hoes. Nid anwybyddu, llawer llai, difrio eu gwrthwynebwyr wnaent hwy! Nid llythyr i wawdio a dirmygu y Gnosticiaid anfonwyd gan Paul gyda Epiphras o Rufain i Colossae—ni wnaethai hyny ond creu cydymdeimlad â'u dysgeidiaeth—ond llythyr i ddynoethi twyll a geudeb yr heresi trwy ddwyn goleuni pur a thanbaid y gwirionedd i'w gwyneb. Nid yw difenwi a difri'o yn profi dim ond gwendid a gwaelder y difriwr. uNo case, abusp. the plaintif." Budcliol hefyd, yw cofìo nad cyfystyr gwrthwynebydd a gelyn bobamseryn