Skip to main content

Y DYSGEDYDD. HEN G\F.—867. MAI, 1894. Cyf. Newydd—267. TRWY FFYDD, ENOCH. GÀN Y PARCH. W. J. NrCHOLSON, P0RTH3ÍAD0G. " Trwy ffydd y symudwyd Enoch, fel na welai farwolaeth," Heb. xi. 5. *N anhawsder yn y geiriau hyn ydyw egluro y gwir gysylltiad rhwng ffydd Enoch a'i symudiad. Y dyb gyffredin ydyw, fod ei symud- K) iad yn wobr, yr hon a roddwyd iddo am ei ffydd. Ond y mae yn anhawdd canfod. ar ba egwyddor resymol y gal) ffydd dderbyn gwobr o'r fath nodwedd. Yn lle treulio amser gydag anhawsderau yr esboniad cyffredin, ceisiwn ddangos fod symudiad Enoch. wrth edrych arno o gyfeir- iad arbenig yn f wy na gwobr am ei ffydd, yn un o'i chanlyniadau naturiol. Y mae tuedd mewn ffydd i symud dyn i'r byd anfarwol. Y mae byd ffydd yn dyfod bob bore o newydd, ac i'w pherchenog hi y mae hen bethau yn myned heibio yn barhaus. Gallu ydyw ffydd sydd ar waith trwy yr oesau, yn symud dyn i'w fyd priodol—yn ei godi beunydd uwchlaw y tymhorol i'r tragwyddol, yn gwthio serch llywodraethol ei fywyd yn mhell- ach i'r ysbrydol, yn plygu ei ewyllys fwyfwy i'r ewyllys fawr a wneir yn y nef. Nid ydym am i neb feddwl ein bod yn cynyg y sylwadau hyn fel esboniad cyflawn ar eiriau y testun. A phell o'n meddwi ydyw ceisio gan neb i roddi i fyny y syniad fod y gehiau yn cyfeirio at symudiad Enoch o fyd amser a gofod i fyd diamser a diofod. Ond credwn ei fod yn haws canfod cysylltiad naturiol a rhesymol rhwng ffydd a symudiad o nodwedd arall—symudiad anhraethol bwysicach i bob dyn na'i ymadawiad o'r byd hwn i'r tu draw i angeu; symudiad o deyrnas y tywyllwch i deyrnas ei anwyl Fab fel y gelwir ef gan Paul; mynediad trwodd o farwolaeth i fywyd fel y gelwir ef gan Iesu Grist. Rhaid fod Enoch wedi prorî y symudiad ysbryd- ol hwn yn ei enaid. Ac yn ngoleuni y Testament Newydd rhaid cael ffydd cyn y gellir ei brofi. Trwy ffydd y symudwyd Enoch o feddiant Satan at Dduw, o'r bywyd sydd a'i ganolbwnc yn gystal a'i bellafgylch yn ddaearol i'r bywyd sydd a'i ysbrydiaeth a'i ragolygon yn nefol. A thrwy ffydd y symudir pob dyn yn yr ystyr arbenig hwn. "Heb ffydd anmhosibl yw rhynga ei fodd Ef," ac mae "rhyngu ei fodd Ef," yn cynwyspob symud- ìad er gwell yn mywyd a chymeriad dyn. 1. "Trwy fpdd" y mae dyn yn myned yn "greadur ?iewydd" iddo ei hun. y mae posibírwydd hunanadnabyddiaeth wedi bod yn ddyrysbwnc i athronwyr yr oesau. Tra y crynhoir holl addysg un ysgol i gynghor enwog Thales y Milesiad, "Adnebydd dy Hun;" dadleuir gan ysgol arall fod pob gwybodaeth am danom ein huuain yn caei ei wahardd gan ddeddf angen- rheidiol yn perthyn i'r meddwl dynol. Nid dyma y lle i wyntyllio golygiad- ftQ y ddw^ vsgol, Cymerwn yn ganiataol mai y gyntaf ydyw yr agosaf at