Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Hen G\f.—865. MAWRTH, 1894. Cyf. Newydd—265. ATHRAWIAETH Y BEIBL AM FARWOLAETH DYN.* GAN Y PARCH. OWEN EVANÍá, D.O., LLUNDAIN. Anwyl Frodyr, äfí55_AN ein bod wedi cael papyr galluog a gwerthfawr, gan y Paroh. H. Hughes (W.), City Road, yn y cyfarfod cyn y diweddaf, ar "Athraw- iaeth y Beibl yn nghylch Anfarwoldeb Dyn" meddyliais nad anmhriodol nac anfuddiola fuasai i nigael ymdriniaeth â'r mater gwrthgyferbyniol i hwnw, sef Athrawiaeth y Beibl yn nyhylch Marwolaeth clyn. Diau genyf eich bod chwi, fel finau, yn teimlo fod y mater yn un tra dyddorol a phwysig; ac hefyd yn un ag y mae rhyw gymaint o anhawsderau yn perthyn iddo. Gallaf eich sicrhau fy mod wedi ei ddewis yn destun nid am fy mod yn tybied fod genyf fi nemawr o oleuni i'w daflu arno; ond yn hytrach er mwyn agor ymddyddan arno, am fy mod yn teimlo yn gwbl hyderus y caf oleani ychwanegoi i fy meddwl fy hun, ar y mater, yn y sylwadau a wneir, gan y naill a'r llall o honoch chwi, yn nghwrs yr ymddyddan, sydd yn ol ein trefn arferol, i ddilyn darlleniad y papyr. Mae y Beibl yn dysgu yn bendant a diamwys, debygwyf, fod pechod wedi dwyn maiwolaeth driphlyg ar ddyn, sef marwolaeth naturioì—marwolaeth ysbrydol—a marwolaeth dragwyddol; neu farwolaeth y corff; marwolaeth yr enaid; a marwolaeth enaid a chorff yn uffern. I. Marwolaeth Naturiol. Dysgeidiaeth amlwg y Beibl yw, mai pechod yw achos moesol marwol- aeth: "Trwy un dyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint a phechu o bawb." Ac fel hyD, "Y mae y corff yn farw o heiwydd pechod," Rhuf. v. 12; viii. 10. ünd nid o herwydd en pechodau gweithredol eu hunain, ychwaith, y mae dynion yn meirw, fel y profir yn eglur gan y ffaith fod babanod yn meirw, y rhai na buont erioed yn euog o gyflawni unrhyw bechod yn eu personau eu hunain. Mae dynion yn meirw o herwydd y pechod cyntaf o eiddo y dyu cyntaf: "Yn Adda y mae pawb yn meirw," 1 Cor. xv. 22. Nid oes arnaf unrhyw gywilydd cyfaddef fy mod yn credu yr hen athrawiaeth, fod Adda yn dal perthynas ddeublyg â'i hiliogaetb, sef tad naturiol a chyn- rychiolydd hefyd. Mae y gyfatebiaeth a wneir gan Paul rhwng Adda a Christ (Rhuf. v. lò—19; 1 Cor. xv. 21, 22, 47), yn nghyda'r ffaith mai i bechod Adda, ac nid i bechod Lfa—er mai hi a bechod yyntaf—j mae y trueni a ddaeth arnom trwy y cwymp, yn cael ei briodoli yn y Beibl, yn •Papyraddarllenwyd yn Nghyfartoi Gweiaidogion Cymreig Llundain,Chwefror lgfed, 1894.