Skip to main content

*Y DYSGEDYDD* Hen G\f.—S61. TACÍIWEDD, 1893. Cyf. Newydd.—261. Y SABBATH. GAN Y PARCII. OWEN EYANS, D.D., LLUNDAIN. " Y Sabbath a wnaethpwyd er rnwyn dyn; ac nid dyn er mwyn y Sabbath."— Maiic ii. 27. |E lefarwyd y geiriau tarawiadol hyn gan ein Harglwydd, mewn aruddiffyniad i'w ddysgyblion, yn ngwyneb achwyniad a cham- gyhuddiad disail a ddygid yn eu herbyn gan eu gelynion maî- eisus—y Phariseaid,—o dori y Sabbath. Yr oedd yr Iesu a'i ddysgyblion, wrth fyced i ryw synagog yn Galilea, un bore Sabbath, yn myned trwy feusydd ŷd oeddynt yn wynion i'r cynhauaf. Fe ddichon ei fod ef a'i ddysgyblion wedi treulio y noson flaenorol allan ar y mynydd, yn yr awyr agored, fel y byddai efe yn arfer gwneud yn fynych; ac os felly, yr oeddynt yn awr yn cyfeirio eu camrau tua'r synagog, i'r addoliad bore y Sabbath, heb damaid o foreufwyd. Pa fodd bynag am hyny, fe ddywed yr hanes yn bendant fod ar y dysgyblion druain " chwant bwyd;" ac o herwydd hyny, y maent, wrth fyned trwy yr ýd, yn dechreu tynu y tywysenau euraidd aeddfed, gan eu rhwbio rhwng eu dwyiaw, a bwyta y grawn oedd ynddynt. Nid oedd lle i'w cyhuddo o ladrad ac anonestrwydd am dynu y tywys, a bwyta 5rd eu cymydog; oblegid yr oedd cyfraith Moses yn caniat- au iddynt wneuthur hyny; canys fel hyn y dywed y gyfraith ar y mater: "Pan ddelych i ŷd dy gymydog, yna y cai dynu tywysenau â'th law,' ond ni chai osod dy gryman yn ýd dy gymydog:" Deut. xxiii. 24. Felly, nid am dynu y tywys yr aehwynai y Phariseaidrhith-santeiddiol ar y dysgybl- ion diniwed; ond am wneuthur hynv ar y Sabbaih:—"Wele, y mae dy ddysgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y Sabbath" meòdynt: Mat. xii. 2. Haerent fod tynu y tywys a'u rhwbio yn halog- iad ar y dydd santaidd, am ei fod yn fath o waìth; ac felly ei fod bron yr un peth, yn ol eu tyb hwynt, a phe buasai y dysgyblion yn medi ac yn dyrnu ar y Sabbath. Ond y mae yr Athraw mawr yn cymeryd plaid ei ddysgyblion, ac yn eu hamddiffyn yn erbyn y camgyhuddiad, a hyny trwy esiampl Dafydd, ar un achlysur neillduol yn ei hanes (adn. 25, 26), ac hefyd trwy ymresymiad anatebadwy y testun. Mae esiampl y brenin duwiol Dafydd, yn ei waith ef a'i filwyr yn bwyta y bara gosod (1 Sam. xxi. 1—6), yr hwn nid oedd gyfreithlawn i neb ond yr offeiriaid ei fwyta, o dan amgylchiadau cyffredin—yn dangos fod hawliau ac anghenion natur dyn yn bwysicach na gosodiadau y ddeddf seremonîol; ac y mae ymresymiad y testun yn profî nad yw deddf y Sabbath yn gofyn i ddyn ymgadw oddi- wrth yr hyn sydd yn angenrheidiol er cysur, cynaliaeth, a pharhad ei 2 f