Skip to main content

*Y DYSGEDYDD.^ HEN G\F.—858. AWST, 1893. Cyf. Newydd.— 258. ATtlRONIAETLI-BETÍI YDYW? OAN Y PROFFESWR KERí EYANS, M.A., PRIFYSGOL UANGOR fi YMDRIN yn foddhaol âg " Athroniaeth y Dyfodol," ac "Athroniaeth ) yn Nghymru," angenrheidiol yngyntaf yw gwneud ychydig sylwad- —' au ar athroniaeth. Yn Nghymru, yn neillduol,y rnae hyn yn angen- rheidiol, ani mai prin y mae y meddwl Cymreig, cr wedi athronyddu llawer, wcdi ymroddi i ffurfîo, ncu yn wir, i feistroli, cyfundrefnau o athron- iaetli, a cbanddo o ganlyniad syniad aneglur iawn yn nghylch ystyr ac amcan athroniaeth. Ileblaw felly, fod ychydig sylwadau cyffredinol ar natur y wyddor yn angenrheidiol, y inae'n dda genyf, am fwy nag un rheswm, gael y cyfleusdra i ddwyn achos athroniaeth o flaen ieuenctyd, ac yn neillduol, mi obeithiaf, o flaen ieuenctyd pregethwrol Oymru; oblegid nid jd unig y mae dysgyblaeth feddyliol athronyddol yn un o'r fath fwyaf gwerth- fawr, ond hefyd, y mae y wyddor yn ymwneud yn uniongyrchol â phynciau o'r pwysigrwydd mwyaf—pynciau sydd yn hawlio ymchwiliad athrocyddoì oddiwrth Lob oes, ond yn neillduol felly oddiwrth ein hoes ni. Os oes yna bynciau " sydd yn hawlio ymchwiliad athronyddol oddiwrth bob oes," gellir dweyd mai diangenrhaid cynyg unrhyw sylwadau, mewn trefn i g^íìawnhau y wyddor. Gwthir yr angenrheidrwydd hwn arnom, fodd bynag, gan waith rhai pobl yn pwnio arni, fel ar wyddoniaeth yn gyffredin, gydag anffaeledigrwydd anwybodaetb. Y mae yn ffasiwn gan rai cyfeillion o'n pulpudau, rhai ag a ddylasent wybod yn well, i gyferbynu athroniaeth â bywyd, damcaniaeth âg ymarferiad. Nid yn unig hyn, ond condemnir athroniaeth am nad yw yn fywyd ac yn ymarferiad yn ogystal. Beuir y wyddor am nad yw ar yr un pryd yn destnn y wyddor! Y gwirionedd sydd yn gorwedd odditan y gyferbyniaeth afrosgo hon yw, fod bywyd yn fwy nag athroniaeth. Ond y niae'n rhyfedd mor araf yr ydym yn d'od i wel'd fod yna wahaniaeth mawr rhwng dweyd nad athroniaeth yn unig yw bywyd, a gwrthgyferbynu athroniaeth â bywyd. Gwna ychydig ystyriaeth ddangos mor anmhosibl mewn gwirionedd yw y fath wrthgyferbyniaeth. Nid oes dim mor ymarferol ag egwyddor lywodraethol—a damcaniaeth wirioneddol. Y masnachwr mwyaf "ymarferol" yw yr hwn sydd nid yn prynu ac yn gwerthu fel peiriant heb feddwl, ond sydd yn taflu ffrwyn rheswm a damcan- iaeth ar war amgylchiadau, ac yn gwneud symudiadau trafnidiol felly yn ddarostyngedig iddo. Mewn gwirionedd, nis gellir defììnio yr hyn sydd yn ymarferol ond fel yr hyn sjdd yn rhesymol mewn gweithrediad. Fwy ond y breuddwydwyr hyn, feddyliai am awgrymu fod yr ymarferol fel y cyfryw yn afresymol? Felly, er fod bywyd yn fwy na damcaniaeth, ni fyddai yn fywyd dynol, moesol, yn annibynol ar ddamcaniaeth o ryw fath; ai tybed îiad yw yn werth trafferthu d'od o hyd i'r uniawn?