Skip to main content

*.Y DYSGEDYDD* Hen GlF.—857. GORPHENAF, 1893. CvF< NEWyDD.__257, "BETH AM Y NOS?» GAN Y PARCH. OWEN EYANS, D.D.} LLUNDAIN. " Baich Dnmah. Arnaf íi y mae yn galw o Seir, Y Rwyliedydd, beth ara y noa? Y gwyliedydd, beth am y nos? Dywedodd y gwyliedydd, Daeth y bore a'r nos hefyd, &c. EsAlAH xxi. 11, 12. ^ljíäjR AE y gair í(baich" yngolygu cenadwri neu brophwydoliaeth;acyn gyff- \ll§fh redin prophwydoliaeth am ryw drychineb a barnedigaethau trymion. <3p3L Ac y mae yn briodol iawn galw prophwydoliaeth felly yn "faich" am mai gorchwyl beichus a blinderns i deimlad y prophwyd oedd cario cenadwri o'r fathhyny drosDduwatddynion; achefyd am y byddai y trychineb a fygyth- id yn y cyfryw brophwydoliaeth yn faich llethol i'r rhai y disgynai y farnedig- aeth arnynt. "Baích Dumah" neu brophwydoliaeth yn nghylch Dumaìi. Yr un yw Dumah ag Idnmea, neu wlad Edom. Preswylid y wlad hono gan hiliogaeth Esau; ac felly yr oedd yr Edomiaid a'r Iuddewon yn berthynasau agos i'w gilydd; ond er hyny yr Edomiaid oedd y gelynion mwyaf dygasog a maleisns a feddai yr Tuddewon. Gwrthodasant adaei i blant Israel fyned trwy eu gwlad ar eu taith o'r Aifft i Ganaan; a phan ddinystyriwyd Jeru- salem gan y Caldeaid, yr oedd yr Edomiaid, yn lle cydymdeimlo fel y dylasent, â'u brodyr, yn nydd eu gofwy a'u haflwydd, yn llawenychu yn eu gorchfygiad, ac yn anog a chynorthwyo y gelynion i'w hanrheithio, Num. xx. 14 — 20; Obad. 10—14; Salm cxxxvii. 7. Fedybir mai yr amser yr oedd yr Iuddewon wedi eu gorchfygu, fel hyn gan y Caldeaid, a'u caethgludo i Babilon, y w yr adeg yr ymofynir yma a'r prophwyd, gan un o'r Edomiaid, yn ei chylch; yr hwn sydd yn gofyn iddo, "Y gwyliedydd, beth am y nos?" &c. Yn briodol iawn y darlunir tymhor y caethiwed yn Babilon yn nos, oblegyd yr oedd santaidd ddinasoedd yr Iuddewon yn anialwch, Seion yn ddiífaethwch, Jerusalem yn anghyfanedd, a thy eu santeiddrwydd, lle y molianai eu tadau yr Arglwydd, wedi ei losgi â thân, Esaiah lxiv. 10 —11. Tra yr oedd pethau yn y sefyllfa bruddaidd a gresynus hono, y mae y prophwyd, mewn gweledigaeth, yn canfod ei hun fel gwyliedydd yn nghanol adfeilion Jerusalem, yn dysgwyl yn bryderus ac yn hiraethus am weled gwawr eu rhyddhad a'u gwaredigaeth yn tori. Ac y mae yn clywed un o breswylwyr Mynydd Seir, yn ngwlad Edom, yn gofyn iddo mewn gwawd, fel y tybiai rhai, "F gwyliedydd beth amynos?" &c. uPa awr o'r nos yw hi?" &c. Yr wyt ti wedi hir ddysgwyl am arwyddion o adferiad dy genedl o'r caethiwed, beth yw y rhagolygon bellach? A oes rhyw argoelion fod amser gwell ar wawrio amoch?" "Oes," rneddai y gwyliedydd, "daeth y bore, a'r nos hefyd." "Mae gwawr eiu gwaredigaeth ni yn dechreu tori; ond y mae nos adfyd a thrallod ar eich goddiweddyd chwithau Jffdomiaid.