Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

** nYSGEDYDD*. Hen G\^855i mai> lg93 CyF^ Newydd>_235 JOHN PENRY. GAN Y PARCH. OWEN EYANS, D.D., LLTJNDAIN. tí ^jpOFFADWRIAETH y cyfiawn sydd fendigedig;" ac yn sicr, fe «\WfÙì ^dylai coffadwriaeth y gwladgarwr aiddgar, a'r efengyíwr V s^& seraphaidd John Penry, fod yn fendigedig, nidyn uniggenym ni fel Annibynwyr, ond hefyd gan Ymneillduwyr Cymru o bob enwad yn ddiwahaniaeth, gan mai efe oedd seren ddydd Ymneillduaeth Gymreig. Ond cyn adrodd hanes bywyd a merthyrdod Penry, nid anmhriodol fyddai i ni, i ddechreu, gymeryd cipdrem frysiog ar agwedd foesol a chref- yddol Cymru yn ei ddyddiau ef. Mae seiliau i gredu i'r efengyl gael ei dwyn drosodd i'r wlad hon, a'i gwneud yn adnabyddus i'r Brythoniaid yn fore—mor fore, yn ol barn rhai, a'r oes apostolaidd. Fe dybia rhai fod Paul ei hunan wedi bod yma yn pregethu; ond os nad oes digon o sail i gredu hyny, y mae genym sicrwydd debygid, fod rhai Oymry wedi dyfod i gydnabyddiaeth a chyfeillgarwch âg ef yn ystod ei garchariad yn Rhufain. Ymddengys mai boneddiges ieuanc o G-ymraes, ac ŵyres, fel y bernir, i Bran Fendigaid, wedi ei hanfou i Rufain i'r ysgol, ac wedi eihenill i'r ffydd Gristionogol, oedd Claudia, yr hon, yn mhlith eraill, a ddymunai ar Pau! ei chofio yn garedig at Timotheus, yn ei ail lythyr at yr efengylwr ieuanc (2 Tim. iv. 21.) Önd pa un bynag ai un o'r apostolion, ai Bran Feudigaid, yr hwn oedd yn Gristion dysglaer, ai rhywun arall, a ddaeth a'r efengyl drosodd gyntaf i Brydain, fe fu yma fesur helaeth o lwyddiant arni am rai canrifoedd; fel yr oedd yn Nghymru yn y seithfed ganrif, er enghraifft, athrofeydd enwogac eglwysi blodeuo?; ac yr oedd eglwysi Cymruhyd hyny yn rhydd oddiwrth gyfeiliornadau dinystriol y Babaeth. Ond tua dechreu y ganrif hono, fe anfonwyd Awstin" Fyuach, gan y Pab, drosodd i'r wlad hon i efengyleiddio y Saesoo, y rhai oeddynt yn baganíaid anwaraidd pan ymsefydlasaut yn Lloegr yn y bumed ganrif; a'r inynach trahausfalch hwnw oedd archesgob cyutaf Oaergaint (Ganterbury). Ond heblaw lled- aenu egwyddorion Pabyddiaeth yn mysg y Saeson yn Lloegr, fe wnaeth Awstin, a'i gynorthwywyr, a'i olynwyr, bob ymdrech o fewn eu gallu, trwy anogaethau a bygythion ac erlidiau, i broselytio ein hynafiaid yn Nghymru i'r ffydd Babaidd. Ond ofer fu pob ymdrech ac ystryw o'u heiddo am amser maith. Eithr wedi gwrthsefyll holl ymosodiadau Rhufain a Lloegr, gyda dewrder a phenderfynolrwydd, am tua chan mlynedd, a dyoddef pob math o erledigaethau, nes difa miloedd o'u hoffeiriaid â min y cledd, fe • Nid yr un oedd hwn ag Awstin, Esgob Hippo, yn Aífrica. Yr oedd liwnw yu byw yn nechreu y bumed ganrif, ac yn un o dduwinyddion galluocaf yr Eglwys Uriatìouogol.