Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

*Y DYSGEDYDD.^ HEfî G\f.—S54. EBRILL, 1S93. Cyf. Newydd.—254. EGLWYS CRIST A LLENYDDIAETH. GAN Y PÀltCH. B. DAYIES, TRELECH. jN y dyddiau hyn pan y inae gelynion eglwys Crist yn ymhy fhau i ddwyn yn ei herbyn gyhuddiadau sydd yn aros hyd yn hyn heb eu profi, cyhuddiadau dybiwn nad ellir eu profi, y mae yn gweddu i'r eglwys ei hun i osod ei hunan yn y safle mwyaf man- teisiol, ac i feddianu yr offerynau cyfaddasaf i gyfarfod â'r ymosodiadau gwahanol a lluosog yma a wneir arni. Nid yw y fyddin hono aesgeuluso fan- teisio ar bob gweíliant mewn arfau, a ddiystyro ddysgyblaeth ac ymarferiad cysoD, ac a orphwyso yn dawel ar hen arfau a fuont yn effeithiol i sicrhau buddugoliaethau lluosog yn y gorphenol, yn ymddwyn yn deg ati ei huu nac yn onest at y cyfrifoldeb sydd yn pwyso arni i'w gwlad. Gall fod mewn amddiffynfeydd a safasant ymosodiadau cedyrn byddinoedd yr hen oesau, a gall ymfalchio yn yr enwa enillwydgan hynafiaid gwrola medrus ei gwlad; ond onid yw celfyddyd a gwyddor yn cynyrchu rhyw greadigaethau parhaus, gerbron y rhai nid ydyw y cadarn yn gryf, na'r medrus yn ddeheuig, na'r gwrol yn ddewr. Onid ydyw y geiriau a gyflwynent y syniadau uchaf am wroldeb, medrusrwydd, a gweithredoedd oesau blaenorol, wedi eu llanw o syniadau newyddion erbyn hyn, sydd yn rboddi ystyr newydd i weithred- oedd dynion, gan eu bod yn cael ystyron newyddion o gyfoeth creadigaeth; cyfoeth na welwyd ei werth gan ein tadau, ond cyfoeth y caraddefnyddir ei werth gan lawer heddyw. Deil eglwys Dduw berthynas â'r Digyfnewid. Y mae gwirioneddau ei phroffes yn ddigyfnewid, mae ffeithiau y datguddiad yn ddigyfnewid. Mae natur ysbrydol yr eglwys ei hun felly; gosodwyd amcan i'w bodolaeth oddiwrth yr hwn nas gall ŵyro, rhoddwyd iddi reol, yr hon nis gall newid, ac ymddiriedwyd iddi drysor nas gall ei esgeuluso, heb fradychu ymddiriedaeth uchaf Duw. Ond amgylchynir higan gyfnew- idiadau nas gall eu llywodraethu yn fynych, ymosoday rhai hyn yn anunion- gyrchol ar nerth ei bywyd ysbrydol, a rhaid iddi ymgyfaddasu i'w cyfarfod. Fel y bu tadau parchus yn ofni y buasai gwyddoniaeth yn cloddio o dan sylfeini y datguddiad dwyfol, ac felly yn anghefnogi pob tuedd ymchwilgar i'r cyfeiriad hwnw, felly hefyd y bu llawer yn credu nad oedd llenyddiaeth yn dyfod o fewn cylch cyfrifoldeb eglwys Dduw, ac felly cadwodd llawer o oreuon yr eglwys ymaith, a disgynodd darparu llenyddiaeth i ofal dynion nad oeddynt yn meddu ar un gradd o unrhyw natur o gymhwysder i ofalu am dani. Ond dylem fod yn onest i'w cydnabod am ei chadw yn fyw. Disgynodd ein llenyddiaeth i ofal rhai nad oeddynt mewn cydymdeimlad dwfn â gwedd ddyrchafol llenyddiaeth; ond yr oedd rhai yn eu canol a ddygent eiddigedd drosti felly. Beth tybed yw perthynas eglwys Dduw â llenyddiaeth yr oes?? A yw yr enwadau crcfyddol yn Nghymru yn edrych