Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A'R HWN YR TJNWYD " YR ANNIBYNWR." Hen GYF.-849. TACHWEDD, 1892. Cyf. Newydd.—249. AnercMad a draddodwyd o Gadair Undeb Cynulleiàfaol Lloegr a Chymru, yn Bradfonl Hydref 11 eg, 1892 gan y parch. e. herber evan3, d.d. Fy Anwyl Frodyr, Yr ydym yn cael y fraint o gyfarfod yn un o'r ychydig drefydd sydd wedi rhodcli i'r Undeb hwn groeeaw calonog a derbyniad caredig am y drydedd waith. Yn ystod ei ail ymweliad yn 1876 y siaredais gyntaf oddi- ar ei esgynlawr, ac felly yr wyf yn dyfod fel pysgotwr gyda rhagddysgwyl- iad hyfryd at lyn 11p. y cafodd amser da o'r bíaen, ac yn cael fy nghalonogi drachefu i'ch anerch yn Bradford. Pan yn anmhenderfynol am fy nhestun, yr oeddwn rhyw ddau fis yn ol yn nghyfarfod chwarterol Undeb Cynulle'dfaol Arfon, ac yn y Gynadledd gwnaed apêl am gael dosbarthiad o fy anerchiadau yn Mai a Hydref yii mJsë Jr -Èglwysi Cymreig. Wrth weled y byddai i'r amcan hwnw gael éíf gario allan, mi a cfynais ar unwaith i mi fy hun, A oes genyf genadwri deilwng o'u hystyriaeth feddylgar? Nid wyf yn bwriadu eich anerch ar Eglwys Crist. Yr ydwyf yn llydan eglwyswr, digon llydan i gredu ei bod yn cael ei gwneud i fyny o u bawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb;" i lav,enychu " nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb, ond yn mhob cenedl, y neb sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymeradwy gandclo ef." Ië, digon llydan i gredu yn " nghymanfa a chy- nulleidfa y rhai cyntafanedig, y rhai a ysgrifenwyd yn y nefoedd," ac a gynorthwyir gan eglwysi bychain a mawrion ar eu ffordd yno. Mae yr Eglwys yma o eiddo Crist lawer yn lletach nag Eglwys Rhufain, sydd yn cau cymaint o Gred allan; yn lletach nag Eglwys Scotland, sydd yn gwneud y Frenhines yn ymneillduwraig mewn un ran o'i theyrnas, tra yn ben yr eglwys mewn un arall; yn rhywbeth teilyngach o Fab y dyn nag eglwys esgymunol Lloegr, yr hon yr hona un o'i thair sect mai hi ydyw "fi unig gorff yn y deyrnas hon sydd yn eglwys:" a'r esgymundod hwn ar ein harweinwyr, ein gweinidogion, a'n diwygwyr mwyaf lidiodd Gymru yn erbyn y Sefydliad. Mae arnom eisieu clywed mwy am Gristwyr yr holl eglwysi, a llai am eglwyswyr un sect. Mae y ddadl fod tair urdd o weinidogion ag y dywed y Llyfr Gweddi wrthym iddynt fod yn yr Eglwys Gristionogol er dyddiau yr apostolion— esgobion, ofíeiriaid, a diaconiaid—yn awr yn cael eu rhcddi i fyny gan yr esbonwyr dyfnaf yn mysg yr Esgobion Seisonig, a ckan bawb oddieithr y rbfti i rynantddarllen i eiriau eglur y Testament Newydd synmdnu offeir»