Skip to main content

a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf-846. AWST, 1892. Cyf. Newydd-246. lacofr gtt ^çtttel. GAN Y PARCH. OWEN EYANS, D.D., LLÜNDAIN. "A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr yrndrechodd gwr âg ef nes codi y wawr. A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyftyrddodd â chyswllt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cyswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech o hono ûg ef. A'r angtl a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a atebodd, Ni'th ollyngaf oni'm bendithi," &c. Gen. xxxii. 24—29. " Yn y groth y daliodd efe sawdl ei frawd, ac yn ei nerth y cafodd allu gyda Duw. ië, cafodd nerth ar yr angel, a gorchfygodd, wylodd ac ymbiliodd ag ef," &c. Hosea xii. 3—6. Ar ei daith yr oedd Jacob y pryd hwn, yn dychwelyd gyda'i deulu a'i anifeiliaid i wlad Canaan, o dý ei ewythr Laban, yn Mesopotamia, lle yr ydoeöd wedi bod yn trigianu am f wy nag ugain mlynedd. Wedi ffoi yno oddicartref yr ydoedd, rhag ofn llid a dialedd ei frawd Esau, yr hwn oedd wedi penderfynu ei ladd, am fod Jacob wedi myned a'r fendith batriarch- aidd «rddiarno trwy d.wyllo ei dad. Creadur garw, gwyllt ei dymher, a di- grefydd ei ysbryd, ond dewr, a rhwyddgalon oedd Esau; ond un tawel, pwyllog, cyfrwys, hunangeisiol, ac un na phetrusai wneud triciau iselwael a thwyllodrus hyd yn nod â'i berthynasau agosaf, er mwyn ei fantais ei hun, oedd Jacob. Anialwch—a rhai blodau gwylltion tra phrydferth yn tyfu ynddo, yn nghanol yr ysgall, y drain, a'r mieri, oedd cymeriad Esau; ond gardd—ac egin gras yn tarddu ynddi, ac ar yr un pryd lawer o chwyn rhonc a gwenwynig yu tyfu ynddi, nes bron lethu a mygu egin gras,—oedd cymeriad Jacob ar y dechreu. Yr oedd rhagorach dynoliaeth yn Esau yn natnriol nag yn Jacob; ond fe lwyddodd gras o'r diwedd, trwy wahanol oruchwyliaethau, i orchfygu a darostwng y pechodau parod i amgylchu Jacob, ac i wneud tywysog o grefyddwr o hono; ac y mae ei hanes yn dangos i ninau, er ein calondid a'n cysur, beth a fedr gras y nef ei wneud o ddefn- ydd pur wael. Pan ydoedd yn awr ar ei daith yn dychwelyd o Mesopotamia, ac wedi cyrhaedd i gyffiniaugwladCanaan, y mae yn clywed, er ei ddychryn, fod Esau ei frawd yn dyfod i'w gyfarfod â phedwar cant o wŷr arfog (adn. 6); ac wedi hebrwng ei deulu a'i anifeiliaid min nos dros rŷd Jabboc, mae Jacob, yn ei bryder a'i drallod, yn ymneillduo ar ei ben ei hun, yn nhyw- yllwch a dystawrwydd y nos, i weddío am amddiffyniad a chymhorth yr Arglwydd: " A Jaccb a adawyd eì hunan: yna yr ymdrechodd gwr âg ef nes codi y wawr," &c. Nid rhywbeth a gymerodd le mewn gweledigaeth neu freuddwyd, fel y mynai rhai i ni gredu, oedd yr ymdrech ryfedd yma; canys nid yw dynion jn cael eu cloffi mewn breuddwyd. Na, fe fu yma ymdrech lythyrenol. Y