Skip to main content

a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Qyf.—844. MEHEFIN, 1892. Cyf. Newydd—244 Anerchiad a draddodwyd o gadair Undeb Cynulleidfaol Lloegr a Ghymru yn y City Temple, Lhindain, Mai 10fedy 1892. Gan E. Herber Evans, D.D., Caernarfon. Fy Anwyl Fbouyr,—Pan y gofynwyd i wr eglwysig enwog, un o'r siarad- wyr cyhoeddns niwyaf pwyllog a thawel, ai nidoedd efe erioed wedi dyoddef oddiwrth y pryder hwnw a deinilir mor gyífredin cyn rhoddi anerchiad cyhoeddus, efe a atebodd, "Ni theimlais erioed gymaint o betrusder a phan oedd genyf i anerch Coleg y Cardinaliaid mewn araeth heb fod yn fy mam- iaith." Yr ydwyf i heddyw'r boreu yn gallu sylweddoli y modd yr oedd Cardinal Manning yn teimlo y pryd hwnw. Y mae llawer o'm brodyr Seisonig sydd yn bresenol nad ydynt yn gwybod, pan yr wyf ya pregethu i'm cynulieidfa fy hun, fy mod yn gwneud hyny bob tro yn yr iaith Gym- raeg, neu ni wnaent mor fynych ac mor garedig gynyg newid pulpudau â mi. Yr wyf yn deisyf eich cydymdeimlad, nid am ty mod yn anerch Coleg o Gar- dinaliaid, ond am y ffaith fy mod yn siarad â chynulliad mawr o ddylanwad diderfyn, yn olynydd aunheilwngi'rpregethwyr godidog, yr awdwyr mawr, y dynion Duw sydd v. edi Uenwi y gadair hon o'm blaen i, y rhan fwyaf o ba rai sydd wedi eu galw i "ymuno â'r orymdaith o seintiau sydd yn lluosogi yn barhaus," a hyny heb y rhyddid hwnw, nad ydyw yn bosibl hyd yn nod i Gardinal, ond pan y llefara efe yn iaith ei fam. Wrth feddwl mai myfi ydyw y cyntaf a dreuliodd ei fywyd fel gweinidog eglwys Gymreig yn Nghymru, i'ch anerch chwi o'r gadair hon, ac nad yw y cyfleusdra i ddadleu hawliau ein gwlad ger eich bron yn dyfod ond, dyweder, unwaith mewn pum mlynedd a deugain, y mae y wasg Gymreig, ac ychydig o newyddiaduron Seisonig wedi bod mor garedig ag ymuno i awgrymu mai yr un mater naawr ag y dylwn eich anerch arno ydyw, "Dadsefydliad yr Eglwys yn Nghymru." Buasai hwn yn ddiau yn destun amserol, ac yn un hawdd iawn i ymdrin âg ef, ac er nas gallaf ymrwymo i beidio gwneuthur cyfeiriad ato cyn terfynu, methais a'i wneud yn destun y papyr hwn. Mor bell ag y mae ymresymiad yn medru myned, y mae y frwydr wedi ei henill. Y mae yn awr wedi disgyn i lawr i fod yn frwydr ffigyrau, megys pebyddai cyfiawnder ein hachos yn dibynu ar pa un a ydyw y rhai sydd yn glynu wrth yr Eglwys Sefydledig yn rhifo un rhan o bedair o'r boblogaeth neu ryw ychydig yn fwy ncu yn llai na hyny. Y mae y benod yma o gyfrif penau yn ddiamheu yn gam yn mlaen ar yr un oedd yn ei rhagflaenu, pan yr oedd penau yn cael eu curo ac nid eu