Skip to main content

tfS a'r iiwn yr unwyd "yr annibynwr. Hen Gyf.—841. MAWRTH, 1892. Cyf. Newydd—241. Cfjarto B. Sjmrgejcm. GAN Y PARCH. OWEN EYANS, D.D., LLUNDAIN. Dyma enw sydd yn air teuluaidd trwy yr holl fyd Cristionogol, a dyina yr enw fydd yn fwyaf adnabyddus i oesau dyfodol o holl enwau pregethwyr yr oes bresenol; oblegid o'r holl bregethwyr mawr a gynyrchodd y ganrif bon, mewn gwahanol wledydd, efe yn ddiddadl oedd y mwyaf mewn poblogrwydd a defnyddioldeb. Yn ei farwolaeth ef, gan h}iiy, fe ellir dweyd yn ddi- betrus fod brenhinbren mynydd Duw wedi syrthio; ac y mae trwst ei gwymp i'r bedd wedi peri cryniad trvry holl wledydd cred, a'r.adswn wedi cerdded o amgylch y ddaear. Ganwyd y pregethwr dihafal hwn—Charles Haddon Spurgeon— mewn pentref o'r enw Kelvedon, gerllaw Colchester, yn swydd Essex, ar y 19eg o Fehefin, 1834. Hauai o hen gyff Puritanaidd, oedd wedi dyfod drosodd i'r wlad hon o Holland, yn nyddiau y Frenhines Elizabeth, ac oedd wedi bod yn enwog atû ei dduwioldeb er's oesau a chenedlaethau. Cawn i un o'i hynafudd, o'r enw Job Spurgeon, ddyoddef hir garchariad yn achos ei grefydd yn nyddiau Charles yr Ail. Pan y ganed y pregethwr byd-enwog, yr oedd ei dad—yr hwn sydd eto yn fyw—yn weinidog ar eglwys fechan o Annibynwyr yn mhentref Kelvedon, a bu ei daid, James Spurgeon, yn weinidog Annibynol yn Stambourne, yn yr un sir, am y cyfnod maith o 60 mlynedd. Ymddengys i'n gwrthddrych gael ei fendithio, hefyd, â mam ragorol, fel y mae yn dygwydd yn gyffredin yn hanes dynion mawr a da. Cymerwyd ef gan ei daid a'i nain pan ydoedd yn bedwar mis ar ddeg oed, a magwyd ef am amryw flynyddau ar eu haelwyd hwynt. "Y plentyn yw tad y dyn," fel y dywed Wordsworth. Ac yn unol â hjuiy, yr oeddynddo yntau ryw hynodrwydd pan yn bleutyn a barai i lawer ofyn am dan■>, fel y gofynai y ceraint a'r cymydogiou am loan Fedyddiwr, "Beth fydd y bach- genyn hwn?" Yr oedd yn nodedig o hoff o lyfrau yn nyddiau ei febyd, a chawn hanes am dano yn myned i'r ystabl, ac yn dringoi'r daflod i bregethu i'w frawd a'i chwúorydd pan ydoedd yn blentyn bach. Tynodd sylw neill- duol y Parch. Kichard Knill, pan oedd y cenadwr enwog a duwiolfrydig hwnw yn lletya, ar un achlvsiir, yn nhy taid ein gwron, yn Stambourne. Aeth y gwr da a'r bachgen bach yn ei law i'r ardd bore dranoeth, ac yno, mewn deildy gwyrdd, o dan gysgod hen ywen ganghenog, bu yn ymddyddan llawer âg ef am y Gwaredwr; ac yna gosododd ei law ar ei ben, a phlygodd ar ei liniau i wedd'io drosto, ami'r Arglwydd ei fendithio a gwneud defovdà mawr o hono. Wedi codi o'i weddi, dywedodd ei fod yn teimlo yr. sici y byddai Charlie bach yn bregethwr, ac y byddaiyn pregethu iV gymumdfa