Skip to main content

a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf.—839. IONAWIl, 1892. Cyf. Newydd—239. "■-- - GAN T PARCH. H. M. HUGHES, B.A., LIVSRPOOL.* YSGRIF I. Mynych y darllenir yn y dyddiau hyn uad y\v o fawr bwys pwy a ysgrifen- odd wahanol lyfrau y Gjfrol Ddwyfol—fod eu gwerth a'u dilysrwydd fel rhanau o'r datguddiad Dwyfol yn aros yr un, pwy bynag oedd yr awduron, am fod hyn yn dibynu mwy ar gynwys y llyfrau nag ar y personau a'u hysgrifenodd. Yn ei anerchiad agoriadol i fyfyrwyr yr ünion Theolo-i'ical Seminary, New York, ddechreu y flwyddyn hon—anerchiad sydd wedi peri cynhwrf a dadl yn mysg Presbyteriaid uniongred America, na welwyd y fath yn hanes yr eglwys hono—dywed Dr. Charles Briggs mai un o'r prif rwystrau ar ffordd y Beibl ydyw yr hyn a elwir gan dduwinyddion yn ddilysrwydd ac awdurdodiaeth yr Ysgrythyrau. "Yr unig awdurdodiaeth {cwtlientirity)" meddai,"ymae afynomni âhi, er sicrhauawdurdodi'rysgrythyrau, ywawdur- iaeth Duw; ac eto y mae'r duwinyddion yn ymboeni i brorì fod yr Ysgryth- yrau wedi eu hysgrifeüu gan neu trwy gyfarwyddyd prophwydi ac apos- tolion." "Yr hyn mae arnom eisieu ei wybod ydyw, a ddaeth y Beibl oddi- wrth Dduw? Ac uid yw o nemawr bwys ein bod yn gwybod enwau y dynion rhagorol a ddewiswyd gan Dduw i gyfryngu yn ei ddatguddiad." Yn ei erthygl alluog ar y cwestiwn hwn yn y Contemporary Ret'iew am Medi, dywed Dr. Schürer "naddylai y cwestiwn o awduraeth Efengyl Ioan ddylan- wadu o gwbl yn niw7eidiol ar ffydd y Cristiou." Nid yw hyn ond aralleiriad o'r hyn a ddywedodd Keimyn 1872, yn eiailargraffiad o Hanes Grist. '-Nid yw prydferthwch y llyfr, a'i gymhwysder iddysgu, ac ysbrydolrwydd santaidd ei gynwys, yn dibynu o gwbl ar enio ei awdwr." Gellid lluosogi dywediadau o'r fath lawer gwaith drosodd, o ymosodiadau beirniaid diweddar ar hen dybiau a thraddodiadau yr eglwys. Ac nid ydym yn barod i ddweyd nad oes llawer o rym yn yr hyn a dd)wedant. Os y daw adeg pryd y gelür profl mai nid Moses a ysgrifenodd y Pum' Llyfr, nac Ezra lyfrau Ezra a Nehemiah, ac mai nid Jeremiah a ysgrifenodd y Galarnad, nac Esaiah yr ail ran o'r llyfr sydd yn dwyn ei enw, bydd yn dda cofio y pryd hyny nad yw y llyfrau yn darfod o ran eu gwerth fel rhanau o'r datguddiad dwyfol, er i'r * Darllenwyd yr uchod yn Nghyfarfod gweiuidogionCymreig Liverpool, ac ar eu cais taer hwy y cyhoeddir hi; a diau y gweithfawrogir hi gau bob darlleuydd meddylgar.—Gol.