Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a'R HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." Hen Gyf.—838. RHAGFYR, 1S91. Cyf, Newydd—238. ^unangofianí % $g$gqfrgttr. Yr wÿf fì yn awr yn ddeng mlwydd a fchriugain oed! Cychwynais fy ngyrfa ar y dydd cyntaf o Dachwedd, 1821. Yr oedd Seren Gomer wedi cychwyn ychydig o'm blaen, ac yr oedd »yr Eurgrawn Wesleyaidd eisoes ar ei yrfa, ac ar ol rhoddi y flaenoriaeth iddynt hwy, gallaf finau ddweyd, fel y dywed- odd Pedr Fardd yn ei hiraeth am Eifìonydd, ar ol cydnabod hawliau Dewi Wyn, a Roberfc ap Gwilyni Ddu, *'Yn drydydd minau droediaf Ar eich ol, 0 wyr, o chaf.''. Gwjr dysyml oedd fy noddwyr cyntaf; ond oblegid yr argyhoeddiad oedd yn eu meddyliau fod angen am üanaf, rhoddasant eu bryd ar fy nwyn allan. Nid oedd un llenor o fri yn eu plith, cr eu bod oll yn wŷr pwyllog a syn- wyrol. Yr oedd o'u nifer y pregethwr enwocaf a feddai yr enwad yn ei oes, ac ni chododd ar ei ol'neb a enillodd gydnabyddiaeth mor gyffredinol fel pregethwr poblogaidd. Efe oedd y Parch. W. Williams o'r Wern, ond pregethwr, ac nid llenor oedd efe. Ysgrifenydd syml ac ymarferol oedd y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, ac yn lledncisrwydd ei ysbryd nid oedd neb a ragorai arno. Ni wyddai y Parch. D. Morgan, Machynlletb, beth oedd blino na diffygio. G weithiwr diorphwys ydoedd, ond prin y gellir dweyd ei fod yn weithiwr difefl; oblegid yr oeddbrychau a meflau llenyddol yn amlwg ar bob peth a ysgrifenodd. Pe defnyddiasai lai o eiriau buasai ei frawddcgau yn fyrach, ac o gymaint a hyny yn f wy eglur. Y'r oedd ol saer- niaeth fedrus ar bob peth a ddeuai oddiar law y Parch. Edward Davies, Trawsfynydd, ac yr oedd eglurder ei lawysgrif yn peri fod fy ngosodwyr cyntaf yn awyddus am ei gopi ef pan ddeuai. Yn hyny y mae yn rhaid i mi ddweyd fod fy ysgrifenwyr cyntaf yn rhagori yn fawr ar lawer o'r rhai a ddaeth areu hol. Olywais felldithio rhai o honynt â melldith dosfc; ac os nad oedd rheg ar dafod, yr wyf yn sicr ei bod yn nghalon llawer cysodydd a fu yn ymboeni yn hir i geisio gwneud allan ambell i air na buasai neb byth yn meddwl wrth ffurf y llythyrenau beth ydoedd; ac yn aml nid oedd dim yn yr hyn a geid yn ol ac yn mlaen yn heíp i gael allan ei ystyr. Fy Ngolygydd cyntaf oedd y Parch. Cadwaladr Jones, Dolgellau, a bu yn gwylio drosof cyhyd fel y daefch i gael ei adnabod fel yr "Hen Olygydd." Dewiswyd ef, nid oblegid ei.agosrwydd i'r swyddfa o'r hon y penderfynwyd fy nwyn alian, ond oblegid mai efe oedd y cymhwysaf o honynt oll i'w osod ar hyny o orchwyl. Buasai 2 K