Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

A'R HWN YR UNWYD " YR ANNIBYNWR." HenGyf.— 837. TACHWEDD, 1891. CYF. Newydd—237- GAN Y PARCH. D. HUGHES, LLANGATWG. Wedi dechreu meddwl ar y pwnc hwn nid hir y buom heb deimlo fod ein hagosrwydd personol afc y dosbarth y mae a wnelom ag ef yn agored i'n dan- fon i eithafion. Buasai edrych arnynt oddiar unrhyw eithafion yn gam a beius; a thybiem, wrth feddwl ychydig, y gallasai brawd canol oed gadw ar "ganol llwybr bam" yn well nag ieuanc neu henafgwr ar fater fel hwn. Nid yw aros uwchben "diffygion" yn waith dymunol: ac y mae yr anny* munoldeb yn cael ei ddwyshau poanharddaf y diffygion hyny mewn ieuenctyd —boreu dydd y dyfodol—acymddwyshayr annymunoldeb yn fwy fythpan y mae y diffygion hyn mor llydan ag oes. Ymdrechwn edrych ar y mater yn feddygol, nid fel pryf yn ymborfchi ar ddolur. Cyfiawnder â hwy, cyn cydio yn y pwnc, yw rhagdraethu sylw fel hyn: na wyddant, trwy brofìad, beth yw cael trochi eu hysbryd yn effeithiau nerthol a dyrchafol diwygiadau crefyddol. Hwy a glywsant â'u clustiau son am danynt. I fywyd eu henaid dyeithr-bethau yw ysgydwadau Ysbryd y gwir- ionedd farciant eneidiau am byth. Anwybodus ydynt mewn dringo, yn nghwmni profiadau addfetach, i fyny llethrau mynydd Duw, ac yno yfed awelon byd arall, ac ymddyrchafu i gopaon y gwàrioneddau dwyfol. Gwag- tadedd undonog ) r iseldir fflat yw y tir y maent yn byw arno, ac ôl hwnw sydd ar eu graen. Yn absenoldeb elfenau ysbrydol anghyffredin nis gellir ysbrydol mwy nag yn meusydd y fferm gyfagos. Pan y mae oes heb enein- iadau ysbrydol dwysiou, disgyna cymeriad i wastadedd cyffredin, lle tyfa y gau a'r siomedig. Eto igyd, tra yn gofidio oblegid absenoldeb "nerthoedd" i arweddu ar gymeriad ieuenctyd yr oes, y raae peirianwaith eglwys Iesu Grist ganddynt; ganddynt. Os nad yw agweddau cyhoeddus Pentecost yr Ysbryd ganddynt, y mae cyfrinion dystaw Ysbryd y Pentecost wrth eu Uaw. Ac yma cwyd gofyniad pwysig: a ydyw cymeriad ieuenctyd yr oes mor rhydd oddiwrth ddiffygion ag y mae cyrhaeddiadau crefyddol presenol y wlad yn cyfiawnhau y dysgwyliad iddo fod? A yw y cymeriad ieuanc i fyny â level ei bosibl- rwydd yn yr oeshon? Gyda gofid y cyfaddefwn fod diffygion pwysig yn 2 E