Skip to main content

a'r hwn yr ünwyd "yk annibynwr." Hen Gyf.-S35. MEDl, 1891. Cyf. Newydd—235. — • ^ GAN Y PARCH. OWEN EYANS, D.D., LLUNDAIN. Mae marwolaeth y gwr enwog ac anwyl uchod, wedi taenu cwmwl o brudd* der a galar dros Gymru yn gyffredinol; ac y mae hyny yn hollol naturiol a phriodol; canys y mae yn gweddu i'r ffynidwydcl, druain, udo, pan y mae un o gedrwydd cadarnaf mynydd Duw wedi cwympo. Fe gydnebydd pawb oedd yn adnabod ein cyfaill a'n brawd ymadawedig, " fod tywysog a gwr rrawr yn Israel," yn ystyr uwchaf a goreu y gair, wedi syrthio i'r bedd y dydd y claddwyd ef. Fe ddywedodd ein Harglwydd, am ei ragredegydd Ioan Fedyddiwr, "na cbododd yn mhlith plant gwragedd brophwyd mwy nag ef;" ac yr ydym yn credu yn onest na chyfeiliornwn ninau wrth ddweyd, na chododd yn mhlith cenedl y Cymry—a chymeryd holl elfenau gwir fawredd i ystyriaeth—bregethwr mwy na Dr. Owen Thomas. Hunodd y gwr enwog hwn yn dawel yn yr Iesu, boreu Sabbath, Awst 2, wedi gwasanaethu ei genedlaeth yn ffyddlawn, trwy bregethu yr efengyí gyda nerth a dylanwad a llwyddiant nodedig, amfwy na phymtheng mlyn- edd a deugain. A'r dydd Gwener canlynol "daeth mewn henaint i'r bedd," yn mynwent Anfield, " fel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser," a'i enaid wedi dyfod "fel tywysen lawn, yn addfed iawn i'r nef." Hebryngwyd ef iV argel wely gan dorf enfawr o wŷr bucheddol, y rhai a ddaethent yn nghyd nid yn unig o Liverpool a'r cyffiniau, ond o bob parth o Gymru, a llawer o drefì Lloegr, i dalu eu teyrnged o barch i'w goffadwriaeth, a'r rhai a wnaethant a]ar mawr am dano ef. Fel yr oedd holl Israel yn galaru wrth gladdu Samuel, felly yr oedd holl genedl y Cymry yn galaru wrth ei gladdu yntau. Teimlai pawb yn y dorf fawr a galarus, ein bod yn sefyll wrth "fedd gwr Duw;" ac yr oedd yn chwith iawn genym oll feddwl, wrth gymeryd yr olwg olaf trwy eiii dagrau ar gauad ei arch, a throi ein cefnau oddiwrth ei fedd, na chaem ni yn mhlith y rhai y bu efe yn tramwy ac yn pregethu teyrnas Dduw, gyda'r fath ddylanwad ac arddeliad, am gynifer o rlynyddau, Aveled ei wyneb ef rnwyach. ' Yr oedd yn dda genym allu myned oddiyma i Liverpool, i dalu y gymwynas olaf iddo; ac y mae yn rhyw fath o hyfrydwch pruddaidd i ni gael gosod blodeuyn bychan megys ar ei fedd, trwy ysgrifenu y nodiadau hyn, i roddi datganiad syml i'n syniad am dano, ein parch iddo, a'n hedmygedd o hono fel dyn, ac fel pregethwr. Cawsom fantais lled helaeth i'w adnabod yn ystod y tymhor cyntaf a dreuliasom yn y ddinas hon; ac ni buasai yn bosibl cael cymydog mwy dymunol i gydlafurio âg ef. A pha bryd bynag y cyfarfyddem ag ef y