Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EK Ä áS5 S& dP $g* 45 A'R HWN YR TJNWYD " YR ANNIBYNWR." Hen Gyf.-833 GORPHENAF, 1891. Cyf. Nbwydd.—233. ^iî^ítoíaBííi &x CEfTOjjI am Jtm ©çteíí.* GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D., LLUNDAIN. " Pwyyw yr hwn sydd yn gorchfygu y byd, ond yr hwn sydd yn credn mai Iesn ywMabDuw? Dyma yr hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, sef Iesu Grist; nid trwy ddwfr yn unig, ond trwy ddwfr a gwaed," &c.—1 IOAN v. 5—12. Anwyl Frodyr,— Nid wyf yn bwriadu amcanu at wneud dim mwy na cheisio agor cil y drws i fyned i mewn i gynwysiad y paragraff pwysig a chyfoethog hwn; gan obdthio y bydd i chwi, y'n nghwrs yr ymddyddan dilynol, fyned i mewn yn mhellach iddo, a dwyn allan o hono rai o'r trysorau gwerthfawr sydd ynddo. Rhaid i mi addef fy mod mewn peth petrusder, ac ansicrwydd, yn fy meddwl fy hun, am ystyr rhai o'r ymadroddion sydd yn y paragraff; ond yr wyf yn dra hyderus y caf oleuni ychwanegol arnynt cyn y terfyna ein hymdriniaeth â'r adnodau yma heddyw. Ni raid i mi eich hysbysu, fod dilysrwydd un o'r adnodau, sef y 7fed, lle y sonir am dri yn tystiolaethu yn y nef, yn fwy nag amheus; a bod y prif feirniaid a'r esbonwyr bron i gyd, erbyn hyn, yn cytuno nad ydoedd yr adnod yn rhan o'r testun gwreiddiol; canys ni cheir hi mewn unrhyw gopi o'r Epistol, yn yr iaith Rocg, cyn yr unfed ganrif ar bymtheg; ac ni ddyfynir hi gan neb o'r Tadau; ac felly y mae hi wedi ei gadael allan o'r Cyfieithiad Diwygiedig. Nid oes achos i hyn, mewn un modd, wanhau dim ar ein ffydd yn athrawiaeth y Drindod; canys y mae y profion o wirionedd yr athrawiaeth fawr a phwysig hòno yn ddigon lluosog a chedyrn, yn annibynol ar yr adnod anysbrydoledig hon; a gwanychdod i unrhyw athrawiaeth ydyw cynyg ei dodi i orphwys ar sylfaen sigledig. Bellach, mi gaf gynyg ychydig nodiadau ar gynwysiad yr adnodau eraill yn y gyfran sydd genym dan sylw. Ac yr wyf am drafod y paragraff yn y ffurf o Ddarlith Esboniadol, er nad yw y sylwadau wedi eu darparu na'ù bwriadu ar gyfer y pulpud. Mae yn eglur, debygaf, mai y mater sydd yn rhedeg fel gwythien euraidd trwy y paragraff, ac yc rhoddi unoliaeth iddo, ydyw- Tystìolarth Duiv am ei Fab, neu Dystiolaeth yr Efengyl am Grist. Fe gawn yma olwg ar y Dystiolaeth 0 ran ei gicrthâdrych, ú chacìernid, a'i chyniuysiad. * Papyr a ddarllenwyd yn Nghyfarfod Gweinidogion Cymreig Lh Jewin, Mçhefia laf, 1891, Cyhoeddir y papyr ftr gais y cyfarfod. .lundain, yn New