Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a'r hwn yr unwyd "yr annibynwyr." Hen Gyf.—831 MAI, 1891. Cyf. Newydd.—231. (fèhmtllan Baíurfíî. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D., LLUNDAIN. " A dywedodd Ahab wrth Elias, A gefaist ti fì, 0 fy ngelyn? Dywedodd yntaa, Cefais; oblegid i ti yrawerthu i wneuthur yr hyn sydd ddrwg yn ngolwg yr Ar- GLWYDD."—1 BREN. XXI. 20. Yn nechreu y bennod hon yr ydym yn cael golwg ar Ahab, brenin annuw- iol Israel—mewrn pang o flinder meddwi—yn myned i'w wely, ac yn troi ei wyneb at y pared, gan wrthod siarad gair â neb o swyddogion ei lys, na phrofi yr un tamaid o fwyd. Mae yn naturiol gofyn, wrth ei weled yn yr agwedd annedwydd hon, Pa drychincb alaethus sydd wedi dygwydd, i beri y fath drallod meddwl i'r brenin ? A ydyw y gelyn erch angeu wedi talu ymweliad â'r palas, ac a oes un o feibion y brenin wedi marw? Neu, a oes rhyfel blin wedi tori allan rhyngddo â rhai o'r teyrnasoedd cymydogaethol, a byddinoedd estronol yn goresgyn, ac yn anrheithio y wlad, ac yn prysur nesâu i wneud ymosodiad ar y brifddinas? Nac oes dim o'r fath; ond rhyw siomedigaeth fechan a dibwys sydd wedi peri i'r brenin anghall a drygionus fyned i'w wely, dodi ei ben o dan y dillad, a sori wrth ei fwyd—yn gyffelyb i ambell blentyn a fyddo wTedi ei ddyfetha gan anwes a moethau,—yn pwdu ar ol cael ei siomi am degan distadl. Yr oedd gan Ahab balas yn y wlad, yn sefyll ar lethr hyfryd yn nghẁr tref Jezreel, tua phum milldir ar hugain i'r gogledd o Samaria, y brifddinas. Yr oedd y palas hwnw yr un peth i frenhinoedd Israel, ag ydyw Castell Windsor i frenhinoedd Lloegr. Yr ydoedd yn lle paradwysaidd a dymunol dros ben, yn sefyll ar godiad tir, ar g\*r gwastadedd eang a ffrwythlawn Esdraelon, ac yn nghanol un o'r golygfeydd mwyaf eang ac amrywiol, a mwyaf prydferth a swynol. Dygwyddai fod gan un o breswylwyr Jezreeî, o'r enw Naboth, winllan fechan yn ffinio â gardd y palas; ac y mae y brenin yn rhoddi ei fryd ar ei chael i'w feddiant, i'r dyben o'i gwneud yn " ardd lysiau" (Mtchen garden) iddo ei hun, gan deimlo y buasai hyny yn ychwan- egu llawer at gyfîeusderau y palas, a phrydferthwch y llanerchau (grounds) a i cylchynent. Ond ni fynai Naboth, ei phercheuog, ar un cyfrif ymadael â'r winllan. Mae yn ddiau fod ganddo ymlyniad cryf wrth ei winllan fech- an am ei fod wedi ei chael yn aeriaeth ar ol ei hynafiaid, ac am ei bod hi wedi bod yn y teulu, fel trefdadaeth, trwy yr oesau, er amser rhaniad y wlad rhwng y llwythau, yn nyddiau Josuah; ac fc ddichon, hefyd, fod claddfa y teulu, a lle beddrod ei dadau, mewü rhyw gẁr o honi, fel yr oedd