Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

WMÊ» gC* .TflW1 8 * snsb i à'r HWN YR UNWAD " Yfì ANNIBYNWYR.' Hen Gyp.—830 EBRILL, 1891. Cyf. Newydd,—230. 1 COR. XII—XIV. G-AN Y PARCH. T. ROBERTS, WYDDGRUG. Mae gwahaniaeth rhwng doniau yr Ysbryd a ffrwythau yr Ysbryd. Yn Gal. v. 22, enwa Paul naw o ffrwythau yr Ysbryd. Yn 1 Cor. xii. 8—10, enwa naw o ddoniau yr Ysbryd. Yr oedd yr eglwys yn Corinth yn gyfoethog iawn o ddoniau yr Ysbryd, ond yn dlawd iawn o ffrwythaa yr Ysbryd. Ym- ffrostiai lawer yn ei dynion mawr, ac yn ei thalentau dysglaer; ond yr oedd yn resynol o ddiffygiol mewn cariad a haelioni. Yn pen. xiii. dyga Paul ar gof iddi nad oedd y talentau dysgleiriaf o un gwerth heb gariad; îe, nad oecld yr aberthan mwyaf yn ddim heb gariad. Ni wnaeth yr eglwys apos- tolaidd hon yn Corinth, wrth dra-dyrchafu y doniau ar draul darostwng y ffrwythau, ddim ond dangos yr un gwendid ag a ddangosir o hyd gan y natur ddynol. Dyma y gwabaniaeth rhwng y byd a'r eglwys. Mae y byd yn gosod talent yn trwchaf; mae yr eglwys yn gosod daioui yn uwchaf, tra nad yw yn dibrisio talent. Mae y byd yn cadw ei anrhydedd uwchaf i'r hyn sydd yn difyru; mae yr eglwys yn cadw ei hanrhydedd uwchaf i'r hyn sydd yn adeiladu. Ond yn rhy fynych mae yr eglwys yn cyfranogi yn ormodol o ysbryd y byd, fcl hon yn Corinth, ac yn syrthio i lawr i addoli talent, acyn meddwi ar yr hyn sydd yn difyru. Mae yr arddangosiadol yn cael mwy o le na'r defnyddiol. Ac mae yr afìechyd moesol hwn yn nychu nerth, ac yn sychu bywyd yr eglwys, yn magu uchelgais a balchder, a'r rhai hyny yn arwain i ymbleidiaeth ac anghariad, nes gwneud yr eglwys yn ddiwerth fel gallu dyrchafol mewn cymdeithas. Dyma yr eglwys gyfoetli- ocaf mewn doniau yn yr oes apostolaidd, ond yr iselaf mewn cymeriad. Mae Paul yn y fcair pcnod a nodir uchod yn fcrafod pwnc y doniau ysbrydol. Yr oedd y gorlawnder o honynfc yn yr eglwys, a'u gwaith hwythau yn eu tra-dyrchafu, wedi arwain i annhrefn aci anghydfod blin a gwaradwyddus. Gwelwn fel y mae perygl i'r pefchau goreu gael cu camddefnyddio. Rhodd- wyd y doniau hyn ar y cyntaf yn arwyddion o esgyniad Crist, ac yn brawf o fywyd yn Nghrist; ond dyma uhw wedi cu darosfcwng yn deganau i bortbi ranity dynion; yn lle cael ett defnyddio yn foddion i lesâu ac adeiladu yr eglwys, dyma nhw wedi eu troi yn achlysur anghydfod. Ymddengys fod rhai o'r eglwys wedi anfon at Paul am ei farn ar y mater, ac y mae yntau yn ysgrifenu ei farn yn helaeth, yn eglur, yn grjf, ac yn fanwl. Yn pen,