Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a'r hwn yr unwyd "yr annibynwr." Hen Gyf,—828, CHWEFROR, 1891. Cyf. NEWYDD.—228. tiau agfca'r €afrau, GAN Y PARCH. J. TH03ÍAS, D.D., LE'RPWL. YSGRIF I. " Y Tadau! pa le y maent hwy?" Hwy a gasglwyd at eu tadau. Mae yr oriau a dreuliwn gyda'r tadau i'w treulio yn unig mewn adgof. Yn mysg mwy na deng mil o athrawon, nid oes i mi nemawr o dadau. Rhaid i mi, gan hyny, ofyn i'r darllenwyr ddyfod gyda mi yn ol i'r dyddiau gynt, er cael yehydig oriau gyda'r tadau. Nid äf a hwy yn ol yn mhell ychwaith. Nid awn hyd at y tadau Apostolaidd, na thadau yr Eglwys. Caiff y tadau Puritanaidd, a'r tadau Pererinol hefyd lonydd genym. Nid afìonyddwn ychwaith ar y tadau Anghydffurfiol, a'r tadau Methodistaidd. Gallasem dreulio oriau hapus yn eu cymdeithas oll; ond deuaf at amseroedd diwedd- arach, ac at rai o'r tadau y daethum i yn bersonol i gydnabyddiaeth â hwy. Cyfyngaf hefyd yn gwbl at y tadau Annibynol. Nid oblegid na allaswn gyfeirio at dadau enwrog o enwadau eraill; ond y mae yn rhaid tynu y llinell yn rhywle, onide bydd y maes yn rhy eang. Mae y rhan fwyaf o'r tadau Annibynol y daethum i gyffyrddiad â hwy, yn perthyn i'r ganrif bresenol, ac wedi dechreu eu gweinidogaeth ynddi; a'r oll o'r rhai y gallaf gydag un- rhyw briodoldeb eu galw yn dadau, yn perthyn i'r tri degaid "cyntaf o'r ganrif yma, ac nid oes cymaint ag un o'r cyfryw yn aros. Mae yr oll o weinidogion ein henwad a urddwyd cyn 1830 wedi eu cymeryd ymaith er's blynyddoedd, ac nid oes ond ychydig enwau yn aros o'r rhai gychwynodd yn y deng mlynedd dilynol. Ond gan i mi dd'od i gydnabyddiaeth âg ychydig nifer o'r rhai a ddechreuodd eu gweinidogaeth yn y ganrif ddiweddaf, dichon mai priodol fydd i mi yn gyntaf gyfeirio atynt hwy; er nad yw yr adnabydd- iaeth a gefaiso honynt ond prin a diffygiol. Nis gallaf alw i gof ond rhyw haner dwsin o weinidogion Annibynol o'r ganrif ddiweddaf, y rhai a welais, ac y cefais gyfie i ymddyddan â hwy. Thomas Jones, NewmarTcct. Dyma y cyntaf o weinidogion y ganrif ddiweddaf a welais. Un o Lanedi, yn Sir Gaerfyrddin, ydoedd, ac aelod gwreiddiol o'r Crwys, Morganwg. Bu yn yr Athrofa yn Nghroesoswrallt, o dan ofal Dr. Edward Williams, ac ar derfyn ei amser, cymeradr,vywyd ef gan ei athraw i sylw y Bwrdd Presbyteraidd fel dyn ieuanc cymhwrys i fyned i Newmarket, Sir Fflint, Ue yr oedd hen achos nychlyd a gwywedig. Nid oedd yno ond un aelod, a hen Ysgotes oedd hòno wTedi dyfod i'r wlad yn nglŷn â'r gweithiau mwn oedd yn yr ardal. Gan mai yn Saesoneg y dygid