Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AR HWN YR UNWYD "YR ANNIBYNWR." Hen GYF.-826. RHAGFYR, 1890. Cyp. Newydd.—226. Y FFORDD EFFEITHIOLAF I'W GWEINYDDU. GAN Y PARCH. JOSIAH JONES, MACHYNLLETH. [ Papyr a ddarllenwyd drwy benodiad y brodyr yn Ngbyfarfod Chwarterol y Foel, Mawrth 25ain, 1890.] Anwyl Frodyr,—Tra yr oeddwn yn mhell oddiwrthych yn ymdeithio yn America, penodasoch arnaf i ddarllen papyr ar y pwnc pwysig hwn. Da genyf alln cydsynio â'ch cais. Y mae perygl i ni ffuantu yn y dyddiau .presenol ar ol pethau newydd a mympwyol, ar draul esgeuluso y pethau pwysig a ordeiniwyd yn yr eglwys gan yr Athraw Mawr. Diau mai nid o ddoethineb y gwnawn ni hyny; canys y mae geiriau ein Harglwydd Iesu mor wir yn yr ystyr hwn hefyd ag erioed: " Gwell yw yr hen." Y mae perygl hefyd i ni lynu yn arwynebol gyda phethau ordeiniedig ac arosol crefydd, heb fod y meddwl yn ymwneud â hwynt nemawr er myned i mewn yn briodoí i'w hystyr. Ac oblegid ein cyfarwydd-deb hefyd âg Ordinhadau pwysig yr eglwys, y mae perygl mawr i ni fyned drwy y gweinyddiad o honynt mewn ffordd beirianol ac annheilwng Diau fod gan y Pen Mawr amcanion goruchel a phwysig yn yr ordinhad 0 Swper yr Arglwydd, yn gystal ag yn y Bedydd. Ond, fel mater o ffaith, ni a wyddom fod y gelyn ddyn wedi cymeryd achlysur anghyfreithlon drwyddi hi, i flino yr eglwys yn rhyfcddol, ac i lesteirio ei gweithrediadau yn erbyn ei deyrnas. Am dros fil o flynyddau, y mae y Swper Santaidd wedi bod yn faes y gwaed yn ỳr eglwys lle y mae y rhyfeloedd poethaf wedi eu hymladd rhwng Óristionogion o blaid, ac yn erbyn golygiadau eu gilydd. " Hwn yw fy nghorff," yw yr ymadrodd sydd wedi bod yn destun penaf yr ymrafaelion. Ac er mor syml ydyw y geiriau, ac er mor hawdd hefyd ydyw eu deall, fel y tybiwn ni, eto y mae nifer y tybiaethau gwahanol am eu hys- tyr yn rhyfeddol. Y mae un o'r enw Albertinus yn rhoddi crynodeb o'r golygiadau gwahanol oeddynt yn adnabyddus iddo ef; ac er ei fod yn ysgrif- enu mewn Lladin cryno a gwasgedig, eto dywedir fod y crynodeb hwnw yn llanw ugain o golofnau unplyg. Ýu sicr, y mae dynion eto fel cynt yn "chwilio allan lawer o ddychymygion." Da i ni nad oes raid i ni fyned ar 01 y fath dryblith o olygiadau heddyw, gan mai prif amcan y cyfarfod hwn ydyw cael ymddyddan, nid yn gymaint ar natur yr ordinhad hon, ond ar y ffordd effeithiolaf o'i gweinyddu. Goddefer i ni, fodd bynag, ddweyd y 2«