Skip to main content

A R HWN YR UNWYD ' YR ANNIRYNWR. Hen Gyf.—824, H\7DIîEF, 1890. Cyf. Newydd.—224 GAN Y PARCH. JOHN TROMAS, D.D., LIYERPOOL. Yr oedd Iesu Grisfc yn bregethwr. Nid pregethior oedd ef yn benaf a blaenaf, ond Owaredwr; ac " ni a wyddom mai hwn yn ddiau yw y Crisfc, Iachawdwr byd." Cyflawni ei waith fel Cyfryngwr, a rhoddi fcesfcun i holl bregethwyr y byd i bregethu arno, oedd amuan blaenaf ei ddyfodiad i'r byd. Ond yr oedd Iesu Grist yn bregethwr. Rhagfynegwyd hyny am dano. Yn ei bregeth gyntaf yn Synagog Nazareth, lle y magesid ef, darllenodd lle yr oedd yn ysgrifenedig, " Ysbryd yr Arglwydd Dduw sydd arnaf fì, o herwydd iddo fy eneinio i, i Iregethu i'r tlodion yr anfonodd fi, i bregethu gollyngdod i'r caethion, a chaffaeliad golwg i'r deillion; i bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd;" a sicrhaodd iddynt fod yr Ysgrythyr hòno y dydd hwnw wedi ei chyflawni yn eu clustiau hwy. Dechreuodd ei fywyd cyhoeddus trwy bregethu yn synagogau Galilea, " A dywedyd, yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nesaodd, edifarhewch a chredwch yr efengyl." Er mwyn hyn y ganwyd ef, ac er mwyn hyn y daeth i'r byd, fel y fcystiolaefchai i'r gwirionedd; ac un o'r profìon o'i Fessiaeth ydoedd fod y "tlodion yn cael pregethu yr efengyl iddynt." Un o'r pethau olaf a wnaeth ar derfyn ei fywyd cyhoeddus oedd pregethu yn mhorth y deml yn Jerusalem. Yr oedd Iesu Grist yn bregethwr yn llawn ystyr y gair; ac y mae y pedair efengyl yn cynwys hanes ei fywyd a'i weinidogaeth; ond teimlir anhawsder, er hyny, i roddi darluniad o hono fel pregethwr. Ychydig o ymadroddion a geir trwy yr efengylau yn cyfeirio yn bendant at ei neillduolion fel pregeth- wr. Pan anfonodd yr archoffeiriaid a'r Phariseaid y swyddogion i'w ddal ef yn Jerusalem ar yr wyl, yr unig reswm a allasai y swyddogion roddi am ddyfod yn ol hebddo ydoedd, " Ni lefarodd dyn erioed fely dyn hwn;" ond ni fynegir ganddynt pa befcíi oedd yn rhoddi y fath neillduolrwydd ar ei leferydd. Yn y rhagymadrodd i'r Bregeth ar y Mynydd, fel ei gelwir, dywed yr efengylydd, " A phan welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a esgynodd i'r mynydd, ac wedi iddo eistedd, ei ddysgyblion a ddaethant ato; ac efe a agorodd ei enau, ac a'u dysgodd hwynt." Ac wredi iddo orphen y bregeth, y mae yn mynegu mewn syndod yr effeithiau a'i dilynodd: " A bu wedi i'r Iesu orphen y geiriau hyn, y torfeydd a synasant wrth ei ddysgeidiaeth ef; canys yr oedd efe yn eu dysgu hwynt fel un ag awdurdod ganddo, ac nid * Darllenwyd yn Nghyfarfod Gweinidogion Cymreig Liverpool. 2f